Fe gafodd dyn o ganolbarth Cymru ddwy flynedd o garchar am werthu cyffuriau ar y ‘We Dywyll’.

Roedd Cei William Owens, 29,  o ardal Aberystwyth – ond yn wreiddiol o Aberdyfi – wedi pledio’n euog i werthu madarch hud a chanabis tros wefan Silk Road 2.0.

Roedd honno’n rhan o’r ‘we dywyll’ sydd y tu hwnt i beiriannau chwilio cyffredin  ac roedd Cei Owens yn un o chwech o bobol o wledydd Prydain a gafodd eu dal mewn cyrch gan swyddogion yr Assiantaeth Droseddu  Genedlaethol.

Roedd wedi cael rhybudd ei fod yn wynebu carchar cyn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe y bore yma.

Y cefndir

Mae’n un o’r bobol gynta’ i gael ei ddedfrydu am drosedd ar y ‘We Dywyll’.

Fe glywodd y llys ei fod yn gweithio dan ffugenw ‘Johnny Alpha’ a fod ganddo system “soffistigedig” o werthu cyffuriau, gan gynnwys eu dosbarthu trwy’r post cyffredin.

Pan aeth heddlu i’w gartre’, fe ddaethon nhw o hyd i dafol i bwyso cyffuriau ac offer ‘encryptio’ cyfrifiadurol.

Roedd hynny’n rhan o gyrch rhyngwladol mewn 17 gwlad.