Mae Llywodraeth Prydain wedi cymeradwyo cynlluniau i godi pwerdy nwy gwerth £200m yn Hirwaun ger Aberdâr yng Nghwm Cynon.
Fe wnaed y cyhoeddiad gan y Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd yr Arglwydd Bourne heddiw.
Fe allai’r cynllun greu hyd at 150 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a 15 o swyddi parhaol ar y safle unwaith y bydd y pwerdy’n weithredol.
Cwmni Pŵer Hirwaun sydd y tu ôl i’r cynllun.
Fe wnaeth Pŵer Hirwaun, is-gwmni busnes Watt Power, gais i adeiladu gorsaf bŵer sy’n rhedeg ar nwy, ar Ystâd Ddiwydiannol Hirwaun. Pan fydd y pwerdy yn weithredol, yn ôl y cwmni, bydd yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi hyd at 400,000 o gartrefi.
Fe fydd y safle yn cyflenwi trydan pan fydd cynnydd yn y galw neu pan mae ’na ostyngiad yn y pŵer sy’n cael ei gynhyrchu mewn pwerdai eraill, meddai’r Arglwydd Bourne.
Gallai’r orsaf bŵer ddechrau gweithredu’n fasnachol yn 2019.
‘Ynni glanach’
Dywedodd yr Arglwydd Nick Bourne: “Mae buddsoddiad parhaus yn allweddol wrth inni symud tuag at ddyfodol o ynni glanach. Bydd y gorsafoedd hyn yn creu swyddi tra’n helpu i gadw’r golau ymlaen.
“Nwy yw’r tanwydd ffosil mwyaf gwyrdd sydd gennym, gan gynhyrchu trydan, gyda hanner yr allyriadau sy’n cael ei greu gan lo.”
‘Newyddion da’
Dywedodd Norman Campbell, cyfarwyddwr y prosiect gyda Phŵer Hirwaun, bod cael sêl bendith y Llywodraeth “yn newyddion da i’r tîm yn Hirwaun a’r economi leol.”
Ychwanegodd y byddai’r cwmni yn gweithio’n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a’r gymuned leol yn ystod y broses adeiladu.
Ond, er gwaetha’r ffaith bod y Llywodraeth wedi cymeradwyo’r cynllun, meddai, fe fyddai’n rhaid sicrhau’r arian er mwyn adeiladu’r prosiect.
“Fe fyddwn yn gwybod os ydyn ni wedi bod yn llwyddiannus neu beidio erbyn canol y flwyddyn nesaf (2016),” meddai.