Eloise Parry
Mae cwest i farwolaeth myfyrwraig ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi dyfarnu ei bod wedi marw ar ôl cymryd gorddos o dabledi colli pwysau drwy ddamwain.

Clywodd y cwest bod Eloise Parry, 21, o’r Amwythig wedi anfon neges destun i’w darlithydd yn y brifysgol yn dweud ei bod yn gwybod ei bod yn mynd i farw ar ôl iddi gymryd y tabledi colli pwysau.

Fe wnaeth Eloise Parry ymddiheuro i’w darlithydd am fod “fod mor dwp” yn y neges dorcalonnus a gafodd ei anfon tua phedair awr cyn ei marwolaeth.

Clywodd y cwest yn yr Amwythig fod Eloise Parry, oedd â hanes o bwlimia, wedi marw ar ôl cymryd wyth o dabledi colli pwysau oedd yn cynnwys cemegyn gwenwynig, dinitrophenol neu DNP, yr oedd wedi eu prynu ar we.

Fe ddyfarnodd Crwner Sir Amwythig, John Ellery, bod y farwolaeth yn un ddamweiniol ond y  byddai’n ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn annog adolygiad o DNP sy’n cael ei farchnata ar-lein fel tabled “llosgi braster”.

Roedd mam Eloise, Fiona Parry, ei chwaer fach Rebecca, ac aelodau eraill o’r teulu yn bresennol yn y gwrandawiad.

Bu farw’r fyfyrwraig, a oedd yn byw mewn fflat yn yr Amwythig, tua 3.25 y prynhawn ar ôl cael ei derbyn i adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol yr Amwythig am 9:56 y bore ar 12 Ebrill eleni.

Wrth gofnodi ei gasgliadau, dywedodd y crwner fod DNP yn amlwg yn sylwedd peryglus a gwenwynig na ddylai fod ar gael i bobl sy’n ceisio meddyginiaeth heb bresgripsiwn.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau i geisio darganfod pwy oedd wedi cyflenwi’r tabledi, a allai fod wedi dod o Ewrop neu Ganada.