Mae cwmni ffilmiau o Gaerdydd wedi derbyn hwb ariannol o £30 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gynhyrchu ffilm oruwchnaturiol newydd.
Cwmni Red & Black Films o Gaerdydd yw’r cwmni cyntaf o Gymru i dderbyn arian i gynhyrchu’r ffilm sy’n dwyn y teitl “Don’t Knock Twice”, o ganlyniad i gymorth gan Gronfa Cyllideb Buddsoddi Cyfryngau Llywodraeth Cymru, dan gyngor cwmni byd enwog Pinewood Pictures.
Fel amod o dderbyn y grant, bydd y cwmni yn gorfod gwario’r rhelyw o’r arian a gaiff yng Nghymru, ac, yn ôl Llywodraeth Cymru, “bydd yn cefnogi nifer fawr o swyddi yn y sector ffilmiau ac yn creu buddiannau economaidd ehangach i amrywiaeth o fusnesau yng Nghymru.”
Mae’r cynhyrchiad hwn yn ffrwyth partneriaeth rhwng y cynhyrchydd John Giwa-Amu a’r cyfarwyddwr Caradog James, a sefydlodd Red & Black Films.
Stori emosiynol yw Don’t Knock Twice am fam sy’n teimlo’n euog iawn am iddi orfod rhoi ei merch mewn gofal ac sydd am gysylltu â hi eto. I achub ei merch, mae’n rhaid iddi ddatgelu’r gwirionedd dychrynllyd sydd y tu ôl i’r chwedl am wrach ddialgar a dieflig.
‘Cefnogi talent o Gymru’
Dywedodd Gweinidog Economi, Edwina Hart: “Mae cynhyrchu ffilmiau’n elfen bwysig iawn o’r diwydiant creadigol ac mae’n faes y mae Cymru yn rhagori ynddo. Rydym am ychwanegu at y llwyddiant hwn, denu cynyrchiadau newydd i Gymru a chyda’r gyllideb hon, sicrhau bod o leiaf 50% o bob cynhyrchiad yn cael ei ffilmio yng Nghymru gan gefnogi talent a chwmnïau o Gymru hefyd.
Ychwanegodd, “Mae’r gyllideb yn helpu’r diwydiant i dyfu ac felly, i greu swyddi newydd; rwy’n hapus iawn mai cwmni o Gymru yw’r diweddaraf i gael budd ohoni; rwy’n dymuno pob lwc i Red & Black Films Ltd gyda’u cynhyrchiad newydd.”
Croesawodd y cynhyrchydd John Giwa-Amu y cymorth ariannol, fel yr eglurodd, “Mae’r help rydym wedi’i gael drwy’r Gyllideb Buddsoddi a’r ffaith bod Pinewood yn gysylltiedig ag ef yn bwysig eithriadol i ni fel cwmni ac mae’n gydnabyddiaeth sy’n adnabyddus ledled y byd.”
‘Pwll dwfn o gyllid’
Ychwanegodd John Giwa-Amu: “Doedd y pwll dwfn o gyllid o Gymru sydd ar gael nawr ddim hyd yn oed yn bodoli o’r blaen; mae’n helpu i sicrhau bod eiddo deallusol yn aros yng Nghymru ac yn helpu’r sector ffilmiau i fynd o nerth i nerth.”
“O ganlyniad, bydd Don’t Knock Twice yn cynnal amrywiaeth o fusnesau yng Nghymru yn ogystal â llawer o unigolion gan fod 50% o gyllid pob cynhyrchiad yn cael ei ddefnyddio i dalu staff.”
Mae cast Don’t Knock Twice yn cynnwys Katee Sackhoff sydd wedi ymddangos yn y ffilmiau “Oculus,” “Riddick” a “Battlestar Galactica”, a Lucy Boynton (Borgia, Sense and Sensibility) a bydd sawl wyneb enwog yn gwneud ymddangosiad ‘cameo’ yn y ffilm hefyd ond dyw’r manylion ddim wedi cael eu cyhoeddi eto.