T Llew Jones
Cyhoeddodd trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Gororau eu bod yn enwi diwrnod y cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau eleni yn ddiwrnod T Llew Jones.

Mae’n cyd-fynd a dathlu canmlwyddiant geni brenin llenyddiaeth plant Cymru.

Croesawodd  Heulwen Davies, Cydlynydd Canmlwyddiant T Llew Jones y penderfyniad i neilltuo diwrnod i ddathlu ei fywyd:  “Mae’r ymateb i’r canmlwyddiant wedi bod yn gyffrous gyda digwyddiadau o bob math yn cael eu cynnal ar hyd a lled y wlad.

“Mae’n wych i feddwl bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cydnabod cyfraniad T Llew, ac mae wedi bod yn braf i gydweithio gyda threfnwyr yr Eisteddfod i gydlynu’r diwrnod.”

Yn fwyaf adnabyddus am ei lyfrau plant, enillodd T Llew Jones y gadair yn Eisteddfod Glyn Ebwy ym 1958 a Chaernarfon ym 1959.

Gweithgareddau ar y Maes

Yn ystod y diwrnod dathlu a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener, Awst 7, bydd cyfres o weithgareddau ar y Maes, a fydd yn cychwyn gyda gweithdy celf Barti Ddu a Twm Sion Cati am 10:00 yn stondin Gŵyl Llên Plant.

  • Yn Theatr y Maes am 11:30 ac eto am 3:30, bydd cyfle i weld sioe theatr ‘Lleuad yn Olau’ gan Arad Goch,
  • Am 12:00 bydd Eurig Salisbury yn trafod y gyfrol ar stondin Gŵyl Llên Plant.
  • Am 12:00 ar stondin Llenyddiaeth Cymru, bydd Siwan Rosser, Emyr Llywelyn a Myrddin ap Dafydd yn cynnal trafodaeth ddifyr am waith T Llew, a hefyd yn hel atgofion am y dyn ei hun.
  • Yn y Babell Lên am 12:45 bydd Bedwen Lyfrau T Llew Jones ac am 1:30 bydd Mererid Hopwood yn arwain darlith Prifysgol Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant; ‘Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan?’
  • Bydd yna ddigwyddiadau i’r plant yn ystod y prynhawn am 2 o’r gloch ar lwyfan y maes a bydd Ben Dant a Twm Sion Cati yn mynd ben ben mewn cyfres o heriau.
  • Roedd T Llew yn hoff iawn o chwarae gwyddbwyll, ac ym Maes D bydd gemau gwyddbwyll yn cael eu cynnal rhwng 11:00 – 4:00, dan arweiniad wyrion T Llew Jones; Owen ac Iolo. Bydd bwrdd mawr gwyddbwyll wedi ei osod tu allan i stondin Gŵyl Llên Plant trwy gydol y dydd gyda chyfle i chwarae’r gêm.

Arddangosfa arbennig

Yn ôl y trefnwyr: “Os nad oes amser gyda chi i fynychu digwyddiad, bydd cyfle i fwynhau arddangosfa arbennig o gadeiriau a murlun yn y Pentref Llên. Bu’r Eisteddfod yn ddigon ffodus i ddenu nawdd ‘Arts & Business Cymru’ er mwyn eu galluogi i gomisiynu dau artist i gydweithio gyda phlant yn ardal Glyn Ebwy a Chaernarfon, y ddwy dref ble enillodd T Llew ei ddwy gadair.”

Ychwanegodd Sioned Edwards ar ran Eisteddfod Genedlaethol Cymru, “Mae’r plant wedi bod yn gweithio gyda’r artist Bethan Clwyd a Luned Parry. Mae’r ddwy gadair a’r murlun yn wirioneddol wych a byddant yn siŵr o roi gwen ar wyneb yr ymwelwyr ar y dydd.”

Mae amserlen lawn yr Eisteddfod ynghyd â gwybodaeth am y gweithgareddau sydd i ddod eleni ar wefan y Pwyllgor Dathlu Canmlwyddiant T Llew Jones; www.tllewjones.com <http://www.tllewjones.com>

Os oes gan aelod o’r cyhoedd ddiddordeb mewn trefnu digwyddiad neu am wybodaeth bellach, cysylltwch â Heulwen Davies, Cydlynydd Canmlwyddiant T Llew Jones; heulwendavies@icloud.com/ 07817 591 930