Rosemary Butler
Mae Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler yn manteisio ar ei hymweliad â Sioe Llanelwedd heddiw i amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad.

Bydd hi’n rhoi araith yn ystod derbyniad ym Mhafiliwn y Llywodraethwyr am 4.30pm.

Ei phrif flaenoriaethau fydd:

  • Sicrhau eglurder a chysondeb o ran y pwerau pellach a gaiff eu datganoli a gwneud yn siŵr bod ein negeseuon allweddol yn berthnasol a bod pobl yn eu deall;
  • Sicrhau bod llais Cymru yn parhau i gael ei glywed ar lefel y DU;
  • Ymgysylltu mwy â phobl Cymru a gwneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar arbenigedd a gwybodaeth eang ein holl gymunedau amrywiol, a;
  • Sicrhau bod ein trafodion yn agored ac yn dryloyw a bod mwy o gyfleoedd ar gyfer gwaith craffu effeithiol.

Yn ei haraith, mae disgwyl iddi ddweud: “Dyma oedd fy mlaenoriaethau hyd yma fel Llywydd y Cynulliad, a dyma fydd fy mlaenoriaethau wrth i ni symud at ddiwedd y pedwerydd Cynulliad.”

Ond wrth edrych ymlaen, mi fydd hi hefyd yn edrych yn ôl ar rai o’r llwyddiannau yn y cyfnod diwethaf, yn enwedig wrth ymdrin â’r Cyfansoddiad.

“Cyn refferendwm yr Alban ac ers hynny, rwyf wedi treulio llawer o’m hamser yn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ar lefel y DU.

“Nid ydym eisiau, ac nid ydym yn haeddu, cael ein hanghofio yn y drafodaeth am ddatganoli pwerau pellach i Gymru tra bod cryn siarad am ddatganoli i’r Alban a rhanbarthau Lloegr.

“Felly, rwyf wedi gwneud sylwadau pendant, er mwyn sicrhau bod gan y Cynulliad le cadarn a pharhaol a bod gennym y cyfrifoldeb i benderfynu ynghylch ein materion ein hunain yn y dyfodol.

“Roeddwn yn falch o gydweithio’n agos ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddiogelu ein lle yn y DU ac rwy’n croesawu ei ymrwymiad i gyflwyno Bil Cymru a fydd yn gweithredu’r ymrwymiad a wnaeth yn ei gyhoeddiad Ddydd Gŵyl Dewi yn gynharach eleni yn llawn.

“Ond wrth gwrs, bydd angen sicrhau bod manylion y Bil yn gywir, felly rwy’n parhau i bwyso ar y bobl briodol i sicrhau ein bod ni’n cael setliad sy’n adlewyrchu ein haeddfedrwydd fel sefydliad seneddol yn deg, ac sy’n sicrhau eglurder a chysondeb – nid yn unig i’r Cynulliad ond i bobl Cymru.”

Bydd y Llywydd yn galw unwaith eto am i’r Cynulliad allu penderfynu ynghylch:

  • ei drefniadau etholiadol ei hun;
  • ei enw (sy’n fater symbolaidd, pwysig); ac
  • yr oedran pleidleisio priodol ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Fel rhan o’r araith, bydd y Fonesig Rosemary hefyd yn ystyried yr hyn sydd wedi’i gyflawni dros y pedair blynedd ddiwethaf i sicrhau bod gwaith Aelodau’r meinciau cefn wrth graffu ar Weinidogion yn fwy perthnasol ac amrywiol, yn ogystal â chyflwyno amser penodedig ar gyfer ‘Cwestiynau gan Arweinwyr y Pleidiau’ yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.