Cyflwynwyr Ffermio, Meinir Howells, Daloni Metcalfe, Alun Elidir
Mae S4C wedi diolch i gymunedau cefn gwlad am eu cefnogaeth i’r sianel ar “adeg dyngedfennol i ddyfodol y sianel gyda’i threfn ariannu yn destun trafodaeth.”
Mae ’na bryderon y gallai’r toriadau a’r newidiadau mawr sy’n wynebu’r BBC effeithio ar y sianel Gymraeg hefyd.
Mae hefyd yn dilyn cyhoeddi adroddiad blynyddol S4C ddoe oedd yn dangos fod gostyngiad wythnosol o 6% yn nifer y bobol oedd yn gwylio S4C bob wythnos, o 383,000 yn 2013-14 i 360,000 yn 2014-15.
Serch hynny bu cynnydd blynyddol o 10% yn y cyfanswm o wylwyr teledu wythnosol, o 551,000 yn 2013-14 i 605,000 yn 2014-15.
Mae S4C ar ganol wythnos o ddarlledu byw o’r Sioe Frenhinol – prif ddigwyddiad y calendr amaethyddol yng Nghymru – ac un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd amserlen S4C.
‘Adeg dyngedfennol’
Wrth annerch cynrychiolwyr o undebau, mudiadau a chymdeithasau gwledig ar faes Sioe Frenhinol Cymru heddiw, pwysleisiodd cyfarwyddwr cynnwys S4C, Dafydd Rhys, bwysigrwydd rhaglenni amaeth a chefn gwlad yn amserlen y sianel.
Meddai Dafydd Rhys, cyfarwyddwr cynnwys S4C: “Ar adeg dyngedfennol i ddyfodol y sianel, gyda’i threfn ariannu yn destun trafodaeth, rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y cymunedau gwledig yn fawr.
“Heb eu cymorth, ni fyddai’r lefel o ddarpariaeth wledig Cymraeg ‘rydym yn ei weld yn rheolaidd ar S4C yn bosibl. Rwy’n mawr obeithio y byddwn ni’n gallu parhau i gydweithio am flynyddoedd lawer i ddod.”
Yn ogystal â Sioe Frenhinol Cymru, mae S4C hefyd yn darlledu o’r Ffair Aeaf a Gŵyl Wanwyn flynyddol o Lanelwedd.
Mae S4C hefyd yn darlledu cyfres Ffermio sy’n adrodd ar y materion sydd o bwys i’r diwydiant amaeth, a Cefn Gwlad, un o gyfresi hynaf S4C.