Y Gweinidog Cyllid, Jane Jutt
Mae disgwyl i nifer o adrannau Llywodraeth Prydain wynebu toriadau o 40% fel rhan o arolwg o adrannau Whitehall gan y Canghellor George Osborne.

Daw’r rhybudd gan Osborne wrth i Lywodraeth Prydain geisio arbed hyd at £20 biliwn yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn rhoi gwybod i adrannau am eu cynlluniau i arbed 25% a 40% erbyn 2019-20.

Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ei chyfrif Twitter bod hyn yn “ragor o newyddion drwg i Gymru gan y Canghellor.”

‘Newidiadau radical’

Mae Gweinidog y Cabinet Matt Hancock wedi cydnabod y byddai’r toriadau’n golygu newidiadau radical i’r adrannau dan sylw, ond ychwanegodd ei bod yn bwysig ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.

Dywedodd wrth raglen The World at One BBC Radio 4: “Rhaid i ni weld lle gallwn ni wneud yr arbedion gorau ar draws y Llywodraeth gyfan.

“Mae’n werth ystyried sut mae’n edrych ym mhob achos. Ym mhob adran rydych chi am edrych ar yr hyn fyddai newidiadau radical yn ei olygu.”

Gwerthu tir ac asedau

Fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Prydain, mae Osborne wedi mynegi ei ddymuniad i weld adrannau’n gwerthu biliynau o bunnoedd o dir ac asedau eraill yn y sector cyhoeddus.

Mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi fis Tachwedd fydd yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol yn y Gwasanaeth Iechyd a’r Adran Amddiffyn.

‘Sicrwydd economaidd’

Dywedodd Osborne y byddai arbedion pellach – sy’n dilyn arbedion lles gwerth £12 biliwn a £5 biliwn arall wrth fynd i’r afael ag osgoi trethi – yn cyflawni cynlluniau’r Ceidwadwyr i dorri’r diffyg ariannol.

“Rydym wedi dangos gyda rheolaeth ofalus o arian cyhoeddus y gallwn ni gael mwy am lai…

“Bydd yr arolwg gwariant yn rhoi mwy o sicrwydd i’r Llywodraeth a’r economi,” meddai.