Fe fu Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn trafod eu pryder am ddiffyg cysylltiad band-eang a signal ffôn mewn ardaloedd gwledig gydag Ofcom ar faes y Sioe Frenhinol y prynhawn yma.

Roedd ffermwyr a phobol sy’n rhedeg busnesau mewn ardaloedd gwledig wedi ymgynnull i glywed pa gynlluniau oedd ar y gweill, a swm buddsoddiad Llywodraeth Prydain i gysylltiadau ardaloedd gwledig.

Yno hefyd roedd cynrychiolwyr o’r diwydiant cyfathrebu a chwmnïau ffonau symudol gan gynnwys EE, O2, Three a Vodafone.

Roedden Ofcom ac Undeb Amaethwyr Cymru yn cydnabod anhawster ffermwyr a phobol fusnes i gynnal eu busnesau a’u bywoliaeth mewn ardaloedd gwledig lle nad oes signal ffôn symudol na chysylltiadau band-eang dibynadwy.

‘Galw cynyddol ar ffermwyr’

“Mae galw cynyddol ar y gymuned amaethyddol i redeg eu busnesau  ar-lein yn ddiweddar,” meddai Brian Thomas, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn i UAC gynnal trafodaethau ag Ofcom, ac roedd e’n cydnabod bod gwelliannau wedi’u gwneud i’r cysylltiadau dros y blynyddoedd.

Ond, credai’n gryf fod angen gwneud mwy “i gyflymu’r broses er mwyn helpu ardaloedd gwledig a busnesau amaethyddol i gael mynediad at gyfleusterau angenrheidiol yr unfed ganrif ar hugain”.

Eglurodd fod galw cynyddol ar ffermwyr i ddefnyddio’r rhyngrwyd wrth iddynt gwblhau eu ffurflenni taliadau sengl, symudiadau’r gwartheg a’r system dagio ar-lein.

“Mae’r diwydiant amaethyddol yn mynd yn fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg ffonau smart ac apiau – yn enwedig wrth i’r genhedlaeth iau ddefnyddio eu ffonau symudol mewn ffyrdd dyfeisgar,” ychwanegodd y dirprwy lywydd.

Mae’n derbyn y bydd y broses o sicrhau cysylltiadau band-eang ymhob ardal wledig yn un hir a chostus, ac fel undeb, roedd e’n cynnig bod angen blaenoriaethu signal ffôn symudol yn yr ardaloedd hynny fel bod pobol yn cael mynediad at y rhyngrwyd drwy wasanaethau fel 3G a 4G.

“Os yw busnesau gwledig yng Nghymru am barhau i lwyddo, mae’n rhaid inni wneud mwy i’w cefnogi”, meddai Brian Thomas.

Buddsoddiad

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, dywedodd Ofcom nad yw 14% o gartrefi yng nghefn gwlad Cymru yn cael 2G, 21% ddim yn cael 3G a 37.2% ddim yn cael 4G, a bod hynny’n gyffredinol is na ffigurau Lloegr.

“Mae gan Gymru wledig ei siâr o ardaloedd nad sy’n cael signal ffôn gan unrhyw ddarparwr,” meddai Elinor Williams, Rheolwr Materion Rheoleiddio Ofcom.

“Mae’r sector amaethyddol yn cael ei heffeithio’n waeth na’r un arall,” ychwanegodd, “ac rydyn ni’n ystyried y mater yn un pwysig iawn”.

Roedd yr undeb yn falch i glywed yn ystod y cyfarfod fod cytundeb cyfreithiol yn ei le i fuddsoddi £5 biliwn erbyn 2017 i sicrhau signal ffôn symudol gan y darparwyr mewn 90% o ardaloedd gwledig Prydain.

“Mae’r diwydiant amaethyddol yr un mor ddibynnol ar ffonau symudol ag unrhyw ddiwydiant arall,” meddai Brian Thomas wrth groesawu’r buddsoddiad.