Byddai 75% o gwsmeriaid a gafodd eu holi ar gyfer arolwg ar ran NFU Cymru’n hoffi gweld rhagor o gynnyrch Cymreig mewn archfarchnadoedd.
Mae’r canlyniadau’n newyddion da i’r diwydiant bwyd yng Nghymru ar drothwy’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Dywedodd bron i dri chwarter y rhai a gafodd eu holi eu bod nhw’n ceisio prynu cig oen neu gig eidion o Gymru, a dywedodd mwy na 50% y bydden nhw’n talu mwy am gig o Gymru.
Ond testun pryder yw’r ffaith fod cwsmeriaid, ar y cyfan, yn credu nad yw cig o Gymru wedi’i arwyddbostio na’i hybu’n ddigonol mewn archfarchnadoedd.
Tesco yw’r gwaethaf am hybu cig Cymru, yn ôl yr arolwg, wrth i un allan o bob 10 yn unig ddweud eu bod nhw’n dda am wneud hynny.
Aldi ddaeth i’r brig ar gyfer hybu cig o Gymru.
Cafodd 500 o bobol eu holi.
Ymateb NFU Cymru
Dywedodd llywydd NFU Cymru, Stephen James: “Byddwn yn cyfarfod â’r holl fanwerthwyr mawr yr wythnos hon gan ddefnyddio’r ffigurau hyn i bwysleisio’r hyn y mae cwsmeriaid yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw am ei weld.
“Rydym yn gwybod fod siopwyr yn awyddus i gefnogi ffermwyr Cymru, ond rydym yn clywed o hyd gan y prif archfarchnadoedd eu bod nhw’n cael eu rheoli gan eu cwsmeriaid.
“Wel, ein neges ni iddyn nhw’r wythnos hon yn y Sioe Frenhinol yw fod cwsmeriaid am gael dod o hyd i gynnyrch Cymreig yn hawdd wrth fynd i mewn i’ch archfarchnad.”
Dywedodd bron i 75% o’r rhai a gafodd eu holi yr hoffen nhw weld gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n defnyddio cynnyrch o Gymru pe bai modd.
Wrth ymateb, ychwanegodd Stephen James: “Fel Undeb, rydym yn parhau i ailadrodd y neges ein bod ni am weld mwy o gynnyrch Cymreig yn ein hysgolion, ein hysbytai, y Weinyddiaeth Amddiffyn a chyrff cyhoeddus eraill.”