Malky Mackay
Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n dwyn camau disgyblu yn erbyn cyn-reolwr Caerdydd Malky Mackay am yrru negeseuon hiliol.

Daeth y sylwadau i sylw’r awdurdodau pêl-droed ym mis Awst 2014, pan gafodd negeseuon testun rhwng Mackay a chyn-bennaeth recriwtio Caerdydd Iain Moody eu datgelu.

Cafodd y sylwadau, oedd yn cynnwys negeseuon hiliol, homoffobig a rhai’n dilorni merched, eu gwneud tra roedd y ddau gyda Chaerdydd.

Ond mewn cyhoeddiad ar eu gwefan heddiw dywedodd yr FA na fyddai’r ddau yn cael eu disgyblu gan fod y negeseuon wedi cael eu hanfon “gyda disgwyliad dilys o breifatrwydd”.

Mae ymgyrch gwrth-hiliaeth Kick It Out eisoes wedi beirniadu penderfyniad yr FA gan gyhuddo’r awdurdodau o “niweidio’i hygrededd a pholisïau gwrth-ragfarn ei hun”.

Chwarae â Tan

Tra roedd Mackay wrth y llyw fe enillodd Caerdydd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2013, ond ar ôl ffraeo â’r perchennog Vincent Tan fe gafodd y sac ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Roedd cryn anniddigrwydd ar y pryd â phenderfyniad Tan i ddiswyddo Mackay, ond fe ddywedodd y perchennog y byddai’r “gwir yn cael ei ddatgelu” rhywbryd.

Yn ôl yr FA, cafodd CPD Caerdydd afael ar y negeseuon ym mis Mawrth 2014 ac fe gawson nhw eu pasio i’r awdurdodau ym mis Hydref.

Mewn datganiad heddiw fodd bynnag fe ddywedodd yr FA eu bod wedi penderfynu peidio dwyn achos yn erbyn y ddau yn dilyn ymchwiliad trylwyr.

“Ar ôl asesu’r dystiolaeth, ac o ystyried y canfyddiad bod y negeseuon wedi cael eu hanfon gyda disgwyliad dilys o breifatrwydd, ni fydd yr FA yn cymryd camau disgyblu yn erbyn Iain Moody a Malky Mackay yn gysylltiedig â’r negeseuon hynny.

“Fodd bynnag, mae’r FA wedi siarad ag Iain Moody a Malky Mackay am anaddasrwydd y termau gafodd eu defnyddio yn y negeseuon. Mae’r ddau wedi cydnabod nad yw’r fath dermau yn dderbyniol. Mae Mr Mackay hefyd wedi bod yn derbyn hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywioldeb gwirfoddol.”

Ymgyrchwyr yn anhapus

Mewn datganiad heddiw mae ymgyrch gwrth-hiliaeth Kick It Out wedi cyhuddo Cymdeithas Bêl-droed o golli hygrededd yn ei hymgais i daclo hiliaeth wrth beidio â disgyblu’r pâr.

“Mae’r FA yn parhau i wahaniaethu rhwng sylwadau cyhoeddus a phreifat,” meddai’r ymgyrch.

“Fe gafodd y negeseuon hyn yn amlwg eu rhannu drwy ffonau ac e-byst gwaith, a phan ddaethon nhw i sylw’r cyhoedd, fe ddaeth yn amlwg i lawer o bobl fod safbwyntiau o’r fath wedi llusgo enw’r gêm drwy’r baw heblaw bod ymgais effeithiol a chyflym i ddelio â nhw.

“Unwaith cafodd y negeseuon eu datgelu, roedd fudd cyhoeddus amlwg i gymryd camau.”