Owain Fôn Williams (canol) yn ymarfer gyda charfan Cymru
Mae Owain Fôn Williams wedi arwyddo gydag Inverness o Uwch Gynghrair yr Alban wrth iddo geisio brwydro am ei le yng ngharfan ryngwladol Cymru.

Fe allai’r golwr chwarae ei gêm gyntaf dros y clwb heno, ar ôl iddo gael ei gofrestru mewn pryd ar gyfer eu gornest yng Nghynghrair Ewropa yn erbyn Astra o Rwmania.

Mae disgwyl i’r Cymro o Benygroes fod yn ddewis cyntaf yn y gôl i Caley, a hynny wedi iddo adael Tranmere ar ddiwedd tymor diwethaf.

Ac mae golwg360 ar ddeall bod penderfyniad y golwr i symud i’r Alban yn seiliedig ar y ffaith fod ganddo un llygad ar sicrhau lle yng ngharfan Cymru petai nhw’n cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Gobaith am gap

Cafodd Owain Fôn Williams ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf yn 2009, ond er iddo gael ei enwi’n gyson dros y blynyddoedd ers hynny dydi o dal heb ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.

Dechreuodd y golwr 28 oed ei yrfa yn Crewe Alexandra cyn symud i Stockport, Bury, ac yna Tranmere yn 2011.

Ond ar ôl i Tranmere ddisgyn o Gynghrair Un yn 2014 ac yna Cynghrair Dau yn 2015 fe benderfynodd y golwr symud ymlaen.

Mae’n parhau i gael ei enwi yng ngharfan Cymru yn rheolaidd, a gyda’r tîm yn edrych yn debygol o gyrraedd Ewro 2016 fe fydd yn awyddus iawn i greu argraff ar y tîm rheoli wrth chwarae’n gyson ar y lefel uchaf posib.

Mynd i’r Alban

Nid Owain Fôn Williams yw’r Cymro cyntaf o’i ardal o i chwarae dros Inverness Caledonian Thistle – rhwng 2011 a 2013 roedd y chwaraewr canol cae Owain Tudur Jones, a enillodd saith cap dros Gymru, hefyd gyda’r clwb.

Bydd Owain Fôn Williams yn cystadlu â Ryan Esson a Dean Brill yn Caley am le rhwng y pyst, a’r disgwyl yw mai’r golwr o Gymru fydd y dewis cyntaf.

Dywedodd ffynhonnell sydd yn agos i’r chwaraewr ei fod yn edrych ymlaen at chwarae yn Uwch Gynghrair yr Alban gan y byddai’n haws creu argraff ar reolwr Cymru Chris Coleman na phetai wedi arwyddo i glwb o Gynghrair Un neu Dau yn Lloegr.

Mae’n debyg bod clybiau ar y lefel hwnnw wedi dangos diddordeb ynddo, yn ogystal ag ambell un o’r Bencampwriaeth ble byddai’r Cymro wedi bod yn ail ddewis.