Mae timau o ddetholion rhanbarthau rygbi Cymru wedi cael gwybod pwy fyddan nhw’n herio wrth iddyn nhw gystadlu yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon ar ei newydd wedd.

Hwn yw’r tymor cyntaf y bydd timau o Gymru’n cystadlu fel rhanbarthau yn hytrach na’r clybiau lled-broffesiynol traddodiadol.

Byddan nhw’n cystadlu o dan ymbarèl ‘Timau Detholion’ y rhanbarthau unigol, ond fe fyddan nhw’n gwisgo hosanau eu clybiau wrth chwarae yn erbyn timau o Loegr ac Iwerddon.

Dydy hi ddim yn glir ar ba gaeau bydd y gemau’n cael eu cynnal eto, ac fe fydd hyfforddwr o Uwch Gynghrair Cymru’n cael eu gwahodd i hyfforddi’r rhanbarthau.

Fe fydd Tîm Detholion Uwch Gynghrair Gleision Caerdydd yn herio Cymry Llundain, Nottingham a Morladron Cernyw, a bydd eu gêm gyntaf gartref yn erbyn Nottingham ar Dachwedd 14.

Yng ngrŵp Tîm Detholion Uwch Gynghrair Dreigiau Casnewydd Gwent mae Connacht, Jersey a Doncaster, ac fe fyddan nhw’n teithio i Connacht ar gyfer eu gêm gyntaf.

Bydd Tîm Detholion Uwch Gynghrair y Gweilch yn mynd benben â Yorkshire Carnegie, Munster ‘A’ ac Albanwyr Llundain. Bydd eu gêm gyntaf oddi cartref yn Swydd Efrog.

Gwrthwynebwyr Tîm Detholion Uwch Gynghrair y Scarlets fydd Bedford, Bryste ac Ulster, ac fe fyddan nhw’n wynebu Bedford gartref ar y penwythnos cyntaf.

Dywedodd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies: “Mae Cwpan Prydain ac Iwerddon yn elfen allweddol o’n llwybr cystadlaethau elit ac mae’n offeryn datblygu hanfodol i chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion.

“Rydym yn credu y bydd cynnwys timau detholion Rhanbarthau’r Uwch Gynghrair yn cynnig llwyfan gwych i helpu’r chwaraewyr gorau yng Nghymru i gamu ymlaen i rygbi proffesiynol.”

Dywedodd cadeirydd Uwch Gynghrair y Principality, Chris Clarke: “Mae clybiau’r Uwch Gynghrair yn edrych ymlaen unwaith eto at chwarae rhan yn y bennod bwysig hon yn natblygiad ein chwaraewyr proffesiynol a gobeithio y bydd y gystadleuaeth yn ennill momentwm yn ystod y tymor fydd yn dechrau cyn bo hir.”