Mae Morgannwg wedi colli am y tro cyntaf yn ail adran y Bencampwriaeth y tymor hwn, wedi i Swydd Essex eu curo o 248 o rediadau yn Chelmsford.

Ond maen nhw’n aros yn y trydydd safle yn y tabl.

Roedd angen 462 ar Forgannwg am y fuddugoliaeth, ac roedden nhw’n 110-1 ar ddechrau’r pedwerydd diwrnod.

Ond collon nhw eu naw wiced olaf am 113 o rediadau wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 213.

Penderfynodd Swydd Essex fatio’n gyntaf ar y diwrnod cyntaf, a chyrraedd 279 yn eu batiad cyntaf wrth i fowliwr cyflym Morgannwg gipio pedair wiced am 36.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 162 wrth i Jesse Ryder o Seland Newydd gipio chwe wiced am 47 i roi blaenoriaeth batiad cyntaf o 117 i’r Saeson.

Nick Browne oedd seren Swydd Essex yn yr ail fatiad wrth iddo daro 129, wedi’i gefnogi gan Liam Dawson (99), i arwain ei dîm i 344-4 cyn cau’r batiad.

Adeiladodd Browne a Dawson bartneriaeth o 237, sy’n record sirol am y wiced gyntaf.

Gyda nod o 462 i ennill, fe ddechreuodd Morgannwg yr ail fatiad yn bositif wrth i’r capten Jacques Rudolph ac Aneirin Donald adeiladu partneriaeth o 70 cyn i’r llifddorau agor.

Cwympodd saith wiced gynta’r bore am 72, ac roedd angen dwy wiced arall ar Swydd Essex am y fuddugoliaeth ar ddechrau sesiwn y prynhawn.

Cwta ugain munud gymerodd hi i’r bowlwyr gwblhau eu gwaith, ac mae cyfnod di-guro Morgannwg yn y Bencampwriaeth o naw gornest wedi dod i ben.

Ymateb

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Roedd hi’n siomedig y ffordd wnaethon ni chwalu, yn enwedig gan ein bod ni’n credu ei bod hi’n bosib ennill yr ornest ar ddechrau’r diwrnod.

“Ond marciau llawn i [Jesse] Ryder. Wnaeth e lwyddo i symud y bêl y ddwy ffordd ac roedd e’n peri anawsterau drwy’r amser.”

Er gwaetha’r canlyniad, roedd Radford yn llawn clod i’r batiwr ifanc, Aneurin Donald a darodd 67 yn ail fatiad Morgannwg.

“Ar nodyn positif, ro’n i wrth fy modd gyda pherfformiad Donald. Mae e’n foi ifanc gyda llawer o dalent ac ry’n ni’n teimlo bod ganddo fe ddyfodol gwych o’i flaen e.”