Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwydded amgylcheddol i gwmni ar gyfer dechrau ar y gwaith o chwilio am olew a nwy ger Llandŵ ym Mro Morgannwg, ar yr amod eu bod yn gwaredu â’r gwastraff yn ddiogel.

Mae’r drwydded yn nodi bod yn rhaid i’r cwmni, Coastal Oil and Gas Cyf, gael gwared ar y creigiau a’r pridd maen nhw’n eu hechdynnu o stad ddiwydiannol Llandŵ mewn modd sy’n diogelu’r amgylchedd a’r cymunedau lleol.

Ond, mae rhai ymgyrchwyr lleol yn poeni am effaith hyn ar iechyd pobol ac amgylchedd yr ardal. Maen nhw’n poeni hefyd y gallai’r drilio arwain at y broses o ffracio, sef y dull dadleuol o dyllu am nwy siâl.

Monitro’r safle

Yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd yr asiantaeth yn monitro’r safle yn fanwl er mwyn sicrhau bod y cwmni yn gwaredu â’r gwastraff yn ddiogel fel rhan o’r drwydded.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu na fydd unrhyw berygl i’r amgylchedd nac iechyd pobol trwy wneud y gwaith hwn, ac yn ôl y llefarydd, “ni fyddem wedi rhoi trwydded amgylcheddol i gwmni oni fyddem yn gwbl fodlon fod ei gynlluniau manwl yn sicrhau ei fod yn gallu gweithredu’n ddiogel”.

Pryderon

Er i Gyfoeth Naturiol Cymru nodi’n glir nad yw’r drwydded yn caniatáu i’r cwmni wneud unrhyw waith hollti hydrolig (‘ffracio’) ar unrhyw amod, mae gan bobol leol a Chyfeillion y Ddaear Cymru eu hamheuon.

Yn ôl Gareth Clubb, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, “byddai’r cwmni ddim yn gwastraffu eu hamser yn drilio yma, oni bai bod bwriad o ffracio i ddilyn”.

Ffracio yw’r broses ddadleuol lle mae cerrig yn cael eu darnio gyda chymysgedd o ddŵr, tywod a chemegau. Mae’n bwnc llosg ledled Prydain oherwydd dadleuon am ei effeithiau ar iechyd a phryderon y gall achosi daeargrynfeydd.

Esboniodd Gareth Clubb hefyd na fyddai modd echdynnu nwy siâl o greigiau Bro Morgannwg heb ddefnyddio’r broses o ffracio, ac roedd e’n poeni’n fawr am effeithiau hynny ar newid hinsawdd.

‘Gwallgof’

Roedd Donal Whelan, ymgyrchydd lleol sy’n byw ym Mro Morgannwg, lle mae ei gartref wedi’i leoli rhwng pedwar safle archwilio, yn poeni’n fawr am y datblygiad diweddaraf.

“Mae’n wallgof”, meddai, “ac mae ymdeimlad cryf o fewn y gymuned na ddylai hyn ddigwydd”.

Roedd e’n poeni am effaith y gwaith o echdynnu ar yr amgylchedd ac ar ansawdd byw pobol y gymuned. Petai’r cwmni’n dod o hyd i nwy siâl, gallai “safle ddrilio godi ymhob milltir sgwâr,” meddai.

Er mai archwilio yn unig y mae Coastal Oil and Gas Cyf ar hyn o bryd, roedd Donal Whelan yn pryderu y gallai Bro Morgannwg droi’n ardal ddiwydiannol, gan effeithio ar brisiau tai ac ansawdd byw’r bobol.

“Byddwn i’n gwerthu fy nhŷ ac yn symud bant petai hi’n dod i hynny,” ychwanegodd wrth boeni am ddyfodol ei blant.

Mae disgwyl i’r gwaith o ddrilio, archwilio ac adfer ar ran y cwmni bara blwyddyn.

Dywedodd Donal Whelan hefyd y byddai’r bobol leol yn barod i wrthwynebu unrhyw ddatblygiadau sy’n dod o ganlyniadau’r archwiliad, drwy brotestio a lobïo.

“Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn barod i barhau i gydweithredu â grwpiau lleol er mwyn gwrthwynebu’r cynllun”, meddai Gareth Clubb.