Y tywel a'r gynfas gafodd eu defnyddio i lapio corff y babi
Mae ditectifs yng Nghaerdydd sy’n cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff babi gael ei ddarganfod yn Afon Taf fis diwethaf wedi cyhoeddi lluniau o gynfas a thywel gafodd eu defnyddio i lapio corff y bachgen bach.
Mae Heddlu’r De yn parhau i apelio ar y fam i gysylltu â nhw er mwyn sicrhau ei bod yn cael sylw meddygol, ac yn ddiogel ac iach.
Cafwyd hyd i gorff y babi yn y dŵr ar 23 Mehefin. Mae’r heddlu’n credu ei fod wedi cael ei eni’n farw.
Roedd corff y babi wedi cael ei lapio mewn cynfas lliw aur/brown golau a thywel glas tywyll.
‘Pryderon gwirioneddol’
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark O’Shea: “Roedd y gynfas a’r tywel yn dod o gwmnïau sydd wedi’u lleoli yn yr Almaen. Maen nhw wedi dweud wrthym eu bod yn cael eu gwerthu ar y we.
“Mae gennym bryderon gwirioneddol am iechyd a lles mam y babi ac rwy’n ei hannog i gysylltu â’i meddyg teulu neu dîm bydwragedd lleol er mwyn iddi gael y gofal sydd ei hangen arni.
“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad neu unrhyw un a all ein helpu i adnabod y fam i gysylltu â ni ar 101 neu’n ddienw i Taclo’r Taclau ar 0800 555111.”