Tosin Femi Olasemo
Mae dyn o Gaerdydd wnaeth honni ei fod yn filwr Americanaidd oedd yn gwasanaethu yn Afghanistan er mwyn twyllo dwy ddynes o fwy na £250,000, wedi cael ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar.
Roedd Tosin Femi Olasemo yn byw yn Adamsdown, Caerdydd, pan wnaeth gysylltu â’r merched ar wefan chwilio am gariad match.com.
Defnyddiodd Olasemo, 37 mlwydd oed, lun o filwr yn gwisgo lifrai milwrol llawn fel ei lun proffil ar y wefan.
Dywedodd wrth y merched ei fod o angen yr arian i drefnu gwyliau o’r fyddin.
Plediodd Tosin Femi Olasemo yn euog i dwyll a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
‘Dinistrio bywydau’
Dywedodd y Ditectif Sarjant Jamie Holcombe o Heddlu De Cymru: “Mae’r achos yma yn enghraifft o sut mae unigolyn yn gallu eistedd o flaen cyfrifiadur a dinistrio bywyd person arall.
“Roedd Olasemo wedi manteisio ar ferched oedd yn agored i niwed ac nid yw wedi dangos unrhyw dosturi am eu colledion sylweddol.”
Ychwanegodd bod yr heddlu yn annog rhai sy’n defnyddio gwefannau o’r fath neu fforymau ar y we i fod yn wyliadwrus ac i beidio anfon arian neu roi manylion personol i ddieithriaid.