Craig Roberts, Edward Maher, a James Dunsby
Mae disgwyl i grwner roi dyfarniad heddiw ynglŷn â marwolaethau  tri milwr wrth gefn fu farw yn ystod ymarferiad hyfforddi gyda’r SAS ym Mannau Brycheiniog.

Clywodd y cwest 20 diwrnod yn Solihull, fod y tri milwr wedi marw ar ôl gorboethi yn ystod taith gerdded 16 milltir ar ddiwrnod crasboeth ym mis Gorffennaf, 2013.

Bu farw’r is-gorpral Edward Maher, o Winchester, a’r is-gorpral Craig Roberts, oedd yn wreiddiol o Fae Penrhyn yng ngogledd Cymru, yn y bryniau. Bu farw’r Corporal James Dunsby, o Trowbridge, yn Ysbyty Brenhines Elizabeth yn Birmingham wedi i’w organau fethu fwy na phythefnos ar ôl yr ymarferiad ar 13 Gorffennaf.

Cafodd saith arall oedd yn ceisio am le gyda’r lluoedd arbennig wrth gefn ar y diwrnod hefyd eu trin am effeithiau’r gwres – gan gynnwys pedwar a gafodd eu cludo i’r ysbyty.

Clywodd y cwest fod 37 o filwyr wrth gefn wedi cymryd rhan yn yr orymdaith, ochr yn ochr â 41 o filwyr arferol oedd yn ceisio cael lle mewn catrawd signalau’r lluoedd arbennig.

Mae disgwyl i uwch grwner Birmingham a Solihull, Louise Hunt, roi dyfarniad ar y marwolaethau heddiw.