Fe fydd newidiadau yn y modd y mae meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru yn cael eu cyflogi, a fydd yn symleiddio’r broses, gyda’r bwriad o annog mwy o feddygon i weithio fel meddygon teulu.

Fel rhan o’r newidiadau, bydd meddygon teulu dan hyfforddiant yn cael eu cyflogi yn ganolog gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn hytrach na thrwy feddygfeydd lleol, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Mae meddygon dan hyfforddiant yn treulio 18 mis o brofiad gwaith mewn meddygfa gyda’r doctoriaid hyn yn cael eu cyflogi gan y feddygfa honno, sy’n golygu y gallen nhw weithiau newid cyflogwr sawl gwaith yn ystod y cyfnod hyfforddiant.

Mae hyn wedi peri anawsterau o ganlyniad i’r newid cyflogwr, gyda rhai achosion o broblemau wrth sicrhau gwasanaethau ariannol ,i’r meddygon dan hyfforddiant, yn cynnwys cael morgais.

‘Y lle gorau i gael hyfforddiant’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Rwyf eisiau i Gymru fod y lle gorau i ddoctoriaid gael eu hyfforddi a gweithio. Rydw i hefyd eisiau denu mwy o ddoctoriaid dan hyfforddiant i feddygfeydd lleol.

“Felly, dwi’n falch o gyhoeddi’r newidiadau i drefniadau cyflogaeth, a fydd yn golygu mai’r Gwasanaeth Iechyd yn ganolog fydd yn cyflogi doctoriaid dan hyfforddiant yng Nghymru. Bydd y newidiadau hyn yn cael eu gweithredu cyn gynted ag y  bo modd.”

Croesawodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Cyngor Meddygon Teulu Cymru y datblygiad: “Mae GPC Cymru yn croesawu’r datblygiad, gyda doctoriaid dan hyfforddiant a meddygfeydd yn elwa o ganlyniad.”

Ychwanegodd: “Yr ydym yn gobeithio y bydd y datblygiad hwn yn denu doctoriaid dan hyfforddiant arbenigol i ddod i Gymru.”