Mae Cyngor Môn yn gobeithio arbed dros £250,000 wrth leihau nifer swyddi uchel-swyddogion.
Bydd swydd y Dirprwy Brif Weithredwr, sy’n wag ar hyn o bryd, a thri Chyfarwyddwr Corfforaethol yn cael eu dileu.
Ar y llaw arall, bydd dwy swydd newydd yn cael eu creu wrth gyda dau Brif Weithredwr Cynorthwyol am gael eu penodi i helpu’r Prif Weithredwr newydd, Dr Gwynne Jones, yn ei waith.
Dod yn debycach i eraill
Eglurodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Ieuan Williams:
“Cytunodd y Cyngor Llawn i gymeradwyo cynlluniau ail strwythuro’r Uwch Dim Arweinyddiaeth. Golyga hyn bydd strwythur uwch reoli Môn yn dod yn debycach i rai awdurdodau eraill yng ngogledd Cymru, yn ogystal â sicrhau arbedion effeithlonrwydd sylweddol a fydd o leiaf £250,000.
“Yn dilyn y newidiadau yma mae dwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol yn cael ei hysbysebu’n fewnol ac yn allanol er mwyn cefnogi ein Prif Weithredwr newydd Dr Gwynne Jones. ”
Cafodd y Dr Jones ei benodi ar lefel cyflog 22% yn is na’r prif weithredwr blaenorol, Richard Parry Jones.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Môn y byddai lefel cyflog o ddwy swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol newydd hefyd ar lefel is na’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol presennol.