Mae ASau Llafur a Ceidwadol yng ngogledd Cymru wedi ymuno i ymgyrchu yn erbyn cynlluniau i gyfyngu pleidleisio ar gyfreithiau Lloegr i ASau Lloegr.

Mi fuasai newidiadau i gyfansoddiad Tŷ’r Cyffredin sy’n cael ei grybwyll gan y prif weinidog, David Cameron, yn gweld ASau Cymru a’r Alban yn cael eu hatal rhag cymryd mewn trafodaethau ar ddeddfwriaeth ar Loegr yn unig.

‘Effeithio ar Gymru’

Dadl yr ASau yw bod materion yn Lloegr megis, iechyd, trafnidiaeth yn ogystal â gwaith yn effeithio ar etholwyr sy’n byw ar ochr Cymru o’r ffin.

Bydd y grŵp o ASau sy’n cynnwys rhai Llafur, David Hanson (Delyn), Ian Lucas, (Wrecsam), Mark Tami (Alun a Glannau Dyfrdwy), Albert Owen (Ynys Môn) a Susan Elan Jones (De Clwyd), a’r Ceidwadwyr David Jones AS (Gorllewin Clwyd) a James Davies AS (Dyffryn Clwyd): yn cyfarfod gyda’r Llywodraeth yr wythnos nesaf i drafod y cynnig.

Esboniodd AS Wrecsam, Ian Lucas:

“Mae hwn yn newid enfawr a fydd yn cael effeithiau ymarferol anferth – yn enwedig yng Ngogledd Cymru. Rydym yn benderfynol o sefyll dros Ogledd Cymru a sicrhau bod ein llais yn parhau i gael ei glywed.”

Ailfeddwl

Er bod y Llywodraeth wedi ailfeddwl a chytuno i ohirio pleidlais ar y mater tan ar ôl toriad yr haf seneddol, mae ASau Gogledd Cymru yn benderfynol gorfodi’r Llywodraeth i ailystyried y cynigion.

Bu’r cynigion yn destun trafodaeth yn San Steffan gan ASau ar ddechrau’r mis.