Bydd cyfarfod o gabinet Cyngor Dinas Caerdydd ddydd Iau nesaf yn ystyried rhestr fer o safleoedd datblygu sydd wedi’u clustnodi ar gyfer tai cymdeithasol newydd.

Mae’r cynllun yn rhan allweddol o strategaeth Cyngor y Ddinas wrth daclo yr angen am dai yng Nghaerdydd ac mae disgwyl fod dros 1500 o dai yn cael eu hadeiladu ar safleoedd sy’n berchen i’r Cyngor, gyda 600 o ohonynt yn tai fforddiadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore sy’n gyfrifol am iechyd, tai a lles ar Gabinet y Cyngor: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r angen am ragor o dai cymdeithasol wedi wedi bod fwyfwy amlwg, gyda dros 10,000 o bobl ar restr aros yng Nghaerdydd yn unig, gyda’r nifer yn parhau i gynyddu.”

Ychwanegodd Susan Elsmore, “Mae’r prosiect yn gam mawr ymlaen ac mae’n gynnig y byddaf yn falch ohono. Yr ydym yn gobeithio y bydd oddeutu 1,500 o dai newydd yn cael eu hadeiladu ledled y ddinas. Bydd y prosiect hwn yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau llawer o bobl.”

Mae’r cyngor yn gobeithio y bydd y prosiect hefyd yn gymorth i foderneiddio ystadau tai presennol, gan annog twf yn y sector adeiladu, gyda’r rhaglen yn addo 250 o swyddi lleol newydd.