Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddan nhw’n creu un Gwasanaeth Gwaed ar gyfer Cymru gyfan erbyn canol 2016.

Fe fydd hyn yn creu un gwasanaeth Cenedlaethol mwy “dibynadwy ac effeithlon”, yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, gan arbed mwy na hanner miliwn o bunnoedd a chreu swyddi newydd.

Ac yn ôl pennaeth y gwasanaeth, fe fydd yn sicrhau fod yr holl waed sy’n cael ei roi yng Nghymru ar ôl mis Mai 2016 yn mynd yn benna’ at gleifion yn ysbytai Cymru.

Mae dau sefydliad yn gyfrifol ar hyn o bryd am roi gwaed yng Nghymru. Yn y De, y Canolbarth a’r Gorllewin, Gwasanaeth Gwaed Cymru sy’n gyfrifol am gasglu, prosesu a dosbarthu cynhyrchion gwaed.

Yn y Gogledd, Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG sy’n gyfrifol am gasglu gwaed. O fis Mai 2016, bydd un gwasanaeth – Gwasanaeth Gwaed Cymru Gyfan – yn gwasanaethu’r wlad gyfan.

Clinigau a swyddi newydd

Fe fydd y cynllun yn creu 25 o glinigau ychwanegol i roi gwaed ac organau ac, yn ôl y Llywodraeth, yn arbed gwerth £596,000 yn y tymor hir bob blwyddyn.

Fe fydd 41 o staff gwasanaeth y GIG yn trosglwyddo i’r gwasanaeth unedig newydd, gydag wyth o swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn Wrecsam ac wyth arall yn y De.

Doedd rhoi pen ar waith Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG yn y Gogledd ddim yn arwydd o fethiant  meddai Vaughan Gething, Y Dirprwy Weinidog Iechyd.

Meddai: “Nod y gwasanaeth newydd yw cadw ffydd rhoddwyr, annog mwy o bobl newydd i roi gwaed a chyfathrebu â phobl sydd wedi rhoi gwaed yn y gorffennol.

“Mae Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG wedi rhoi gwasanaeth hanfodol i bobl yn y Gogledd, ac nid unrhyw fethiant ar ei ran yw’r rheswm dros ddod â’i wasanaethau i ben. Bydd cychwyn gwasanaeth Cymru gyfan yn sicrhau bod gennym drefniadau cynaliadwy sy’n cyd-fynd â’n dyheadau cenedlaethol ar gyfer Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.”

‘Enw da’

“Bydd un gwasanaeth i Gymru gyfan yn sicrhau gwerth am arian i bobol Cymru ac yn cynnal gwasanaeth o ansawdd uchel,” meddai Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Mae meddygaeth fodern yn dibynnu ar ddarpariaeth gyson o waed a chynhyrchion gwaed ac mae gan Wasanaeth Gwaed Cymru enw da iawn am ddarparu gwasanaeth diogel, dibynadwy ac effeithlon.”

Clinigau gogledd Cymru

Yn ogystal â’r clinigau newydd, fe fydd timoedd ym Mangor a Wrecsam yn parhau i gynnal sesiynau symudol rhoi gwaed yn yr un ardaloedd ar gyfer pobol ar draws Gogledd Cymru.

Fe fydd y gwaed o’r Gogledd y cael ei brosesu yn labordy Tonysguboriau yn ne Cymru cyn ei ddosbarthu’n ôl i ysbytai Bangor, Glan Clwyd a Maelor Wrecsam.

Bydd Y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn ymweld â’r uned Symudol Rhoi Gwaed yn Llanelwy yn ystod y dydd heddiw.