Trenau First Great Western
Bydd trenau rhwng de Cymru a Llundain yn cael eu heffeithio’n “sylweddol” dros y deuddydd nesaf oherwydd streic gan weithwyr rheilffordd.
Bydd miloedd o weithwyr cwmni trenau First Great Western yn streicio am 48 awr o 6.30yh heno ymlaen.
Mae’r streic, dros swyddi a chynnal a chadw trenau Hitachi newydd, yn effeithio gwasanaethau rhwng Llundain a de Cymru gan effeithio cefnogwyr criced sy’n teithio i Gaerdydd ar gyfer y Prawf Lludw.
Bydd amserlen ddiwygiedig yn cael ei gweithredu ond rhybuddiodd First Great Western na fydd cymaint o le ag arfer ar y trenau ac y bydd y gwasanaethau sydd yn rhedeg yn brysur iawn.
Mae’r newidiadau yn golygu y bydd trenau rhwng de Cymru a Llundain yn rhedeg bob awr yn hytrach na bob hanner awr.
Gallai gwaharddiad goramser ddydd Sadwrn hefyd arwain at newidiadau hwyr neu ganslo gwasanaethau, rhybuddiodd y cwmni.