Mae Golwg360 ar ddeall y bydd y corff sy’n cynrychioli’r sector cynhyrchu teledu Cymraeg annibynnol yn cyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale wythnos nesaf.
Dywedodd cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Iestyn Garlick, eu bod nhw wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod yr Ysgrifennydd Diwylliant, ynghyd ag Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, ac Alun Cairns, gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn Llundain.
Byddan nhw’n cyfarfod i drafod oblygiadau’r Gyllideb i S4C yn dilyn adroddiadau ddoe y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 mlwydd oed.
Dywedodd John Wittingdale yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe ei fod yn meddwl ei fod yn rhesymol y dylai S4C wneud yr un math o arbedion effeithlonrwydd y mae’r Llywodraeth am i’r BBC ei wneud.
‘Annisgwyl’
Meddai Iestyn Garlick nad ydi o’n ei gweld hi’n “deg o gwbl i S4C wneud mwy o doriadau”, yn enwedig o feddwl eu bod nhw eisoes wedi torri 36% o’r gyllideb ers 2010.
Dywedodd hefyd fod unrhyw gwtogi ar gyllideb S4C yn mynd i gael effaith gwaeth na fyddai’n ei gael ar y BBC oherwydd bod y sianel Gymraeg yn gymaint llai o ran maint.
Mae TAC wedi dadlau ers 2010 y dylai S4C a’r BBC fod yn gwbl annibynnol o’i gilydd, ond ychwanegodd Iestyn Garlick fod y cyhoeddiad ddoe wedi bod yn annisgwyl ac yn awgrymu fod Llywodraeth y DU a’r BBC wedi dod i gytundeb heb drafod gyda S4C.
‘Annheg’
Meddai Iestyn Garlick: “Os yw John Wittingdale yn dweud bod angen i S4C gael eu trin yn yr un modd ar BBC, yna mae’r BBC yn awgrymu eu bod nhw am ddod allan o hyn mewn gwell sefyllfa. Os yw S4C hefyd yn dod allan o hyn mewn gwell siâp, mae popeth yn iawn.
“Ond mae S4C wedi gwneud 36% o arbedion ers 2010, ac mae unrhyw gwtogi ar gyllideb S4C yn cael effaith gwaeth na’r BBC. Y mwya’ sydd gennych chi, y lleia’ mae’r effaith yn mynd i fod.
“Mae’r sefyllfa yn gythreulig o annheg ac roedd hi’n annisgwyl iawn fod hwn yn y Gyllideb yfory tra bod pawb wedi bod yn gweithio tuag at gytundeb yn yr Hydref pan fydd Siarter y BBC yn cael ei adnewyddu.”