Mae Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru’n ymchwilio i dân mewn swyddfa bost a siop deithio ym Mhontypridd neithiwr.

Cafodd y diffoddwyr tân eu galw i’r safle ar Stryd y Felin tua 6yh nos Lun.

Roedd tua 40 o ddiffoddwyr tân yno neithiwr ac mae disgwyl i rai fod yno yn ystod y dydd heddiw wrth i ymchwiliad barhau i achos y tân.

Er na chafodd unrhyw un eu hanafu, mae difrod sylweddol i’r adeilad.