George Osborne
Fe allai siopau aros ar agor yn hirach ar ddydd Sul o dan gynlluniau i’w cyhoeddi gan y Canghellor George Osborne, pan fydd yn cyflwyno’r Gyllideb newydd yfory.

Bydd George Osborne yn dweud ei fod eisiau llacio rheolau sy’n atal siopau mawr rhag aros ar agor am fwy na chwe awr ar y Sul ond mae’n debyg y bydd yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y penderfyniad yn lleol i Feiri etholedig ac awdurdodau lleol.

Mae’r Trysorlys wedi nodi ymchwil a ddaeth i’r casgliad y byddai dwy awr ychwanegol o fasnach ar y Sul yn creu bron i 3,000 o swyddi ac yn cynhyrchu dros £200 miliwn y flwyddyn mewn gwerthiant ychwanegol yn Llundain yn unig.

Dywedodd George Osborne fod tueddiadau siopa ar-lein yn awgrymu “awydd cynyddol” am fasnachu ar y Sul a bod agor am oriau hirach yn ystod y Gemau Olympaidd yn Llundain wedi bod yn llwyddiant.

Ond mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan Gymdeithas Siopau Cyfleustra  sydd wedi dweud y gallai’r cynllun orfodi siopau bach allan o fusnes a’i fod yn amhoblogaidd gyda’r cyhoedd.

Hefyd yn ei Gyllideb gyntaf heb y Democratiaid Rhyddfrydol, mae disgwyl i George Osborne ddangos ble mae wedi dod o hyd i £12 billion o arbedion a addawyd ym maniffesto’r Blaid Geidwadol.