Bannau Brycheiniog
Mae dau ddyn wedi marw ar ôl cael eu taro gan fellt mewn dau ddigwyddiad ar wahan ar fynydd Pen y Fan ym Mannau Brycheiniog.
Mae dau ddyn arall yn parhau yn yr ysbyty ar ôl y storm tua 12 ddydd Sul.
Mewn datganiad dywedodd Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful bod dau ddyn wedi marw a bod un dyn arall wedi cael ei drosglwyddo i Ysbyty Treforys gyda llosgiadau ac mae un dyn arall yn parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Tywysog Siarl.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gynharach bod tri dyn – gan gynnwys dyn yn ei 50au – wedi cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl cael eu taro gan fellten tra’n cerdded gyda’i gilydd.
Cafodd dau ddyn eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau oedd yn bygwth bywyd tra bod trydydd dyn wedi’i gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans gydag anafiadau nad oedd yn bygwth bywyd.
Bu farw un o’r tri yn ddiweddarach, meddai’r ysbyty, tra bod yr ail ddyn fu farw wedi cael ei anafu gan fellten mewn digwyddiad ar wahân.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod eu teuluoedd wedi cael gwybod a bod eu hymchwiliad yn parhau. Credir bod y pedwar dyn yn dod o Loegr.