Mae aelodau o Bwyllgor Gwaith Cyngor Môn wedi penderfynu ymgynghori ar ddyfodol Cartref Preswyl Haulfre yn Llangoed.

Cafodd pryderon eu codi am gyflwr cyffredinol yr adeilad, sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar allu’r staff i ddarparu gofal o’r safon uchaf i’r 18 o breswylwyr, yn ôl adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor.

Mae’r cartref wedi ei leoli mewn hen faenordy, a roddwyd i’r Awdurdod Lleol gan y teulu Chadwick ym 1967.

“Mae’r asesiad cyffredinol yn dangos nad yw’r cyfleusterau presennol yn addas ac y bydd hi’n mynd yn fwy ac yn fwy anodd i sicrhau gofal diogel y tu fewn i’r adeilad,” meddai Cyfarwyddwr Cymuned Môn, Gwen Carrington.

“Rydym yn cydnabod bod tanfuddsoddi wedi bod dros y blynyddoedd, ond mae’r adeilad bellach yn cael effaith andwyol ar ddarpariaeth y gofal yno a’r gwaith dydd i ddydd.”

Ychwanegodd: “Bydd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith i gytuno i ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol Haulfre yn rhoi amser i ni ystyried a thrafod materion mewn manylder gyda thrigolion, eu teuluoedd, a rhanddeiliad eraill. Caiff hyn ei ddilyn gan broses o ymgysylltu ehangach gyda’r gymuned leol.”

Gofal i bobol hyn

Mae Cyngor Sir Ynys Môn ar hyn o bryd yn trawsnewid ei ddarpariaeth gofal ar gyfer oedolion hŷn.

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, Alwyn Jones: “Rydym wedi cytuno symud i ffwrdd o gartrefi gofal preswyl traddodiadol a thuag at gyfleusterau gofal ychwanegol, er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw’n hirach yn eu cartrefi ac yn annibynnol am gyn hired â phosib.

“Yn wyneb y datblygiadau diweddar yn Haulfre, bydd y gwaith i greu darpariaeth Gofal Ychwanegol newydd i wasanaethu De’r Ynys yn derbyn blaenoriaeth.”

Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol Haulfre fel cartref gofal preswyl yn cynorthwyo penderfyniad terfynol gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref.