Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn astudio y rhan fwyaf o’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion, yn ôl ffigurau gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Ond fe fu cwymp yn nifer y rhai sy’n dysgu ychydig iawn o bynciau trwy’r Gymraeg

Mae nifer y myfyrwyr sy’n astudio y rhan fwyaf o’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu o 2,250 yn 2011/12 i bron i 2,450 yn 2013/14.

Mae nifer y myfyrwyr  sy’n astudio cyfran o’u pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg  ers 2013 wedi cynyddu yn sylweddol, gyda 600 yn rhagor wedi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg rhwng 2011/12 a 2013/4.

Yn ôl Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,  Dafydd Trystan:  “Mae cynnydd pwrpasol wedi digwydd ac fe fu mwy nag erioed o’r blaen yn astudio yn helaeth yn Gymraeg yn y Brifysgol yn 2013/14.”

Wrth esbonio am natur yr ystadegau, dywedodd Dafydd Trystan: “Mae tair elfen i’r ystadegau astudiaethau cyfrwng Cymraeg, gydag un elfen yn dangos y sawl sy’n astudio yn helaeth yn Gymraeg, gyda’r ffigurau yn nodi y sawl sy’n astudio rhywfaint yn Gymraeg;  a’r trydydd yn dangos y sawl sy’n astudio ychydig bach yn Gymraeg.”

‘Canmoliaethus’

Yn ôl Dafydd Trystan, mae yna gynnydd  wedi bod yn y nifer sy’n astudio rhan sylweddol o’u pynciau trwy’r Gymraeg: “Mae’r ffigyrau yn ganmoliaethus ond mae angen gwella ar hynny. O’r tair elfen mae’r ddwy gyntaf yn sail i dargedau corfforaethol sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth Cymru i’r Coleg Cymraeg a Phrifysgolion Cymru; ac mae’r ddwy elfen wedi profi cynnydd pwrpasol a sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf.”

Serch hynny, fe welwyd cwymp yn nifer y rhai  fu’n astudio rhan fach iawn o’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, meddai Dafydd Trystan “Mae’r drydedd elfen – sef yr unigolion sy’n gwneud rhan fach o ddarpariaeth Prifysgol, efallai cyn lleied ag un ddarlith dosbarth nos yn Gymraeg, wedi profi cwymp yn 2013/14.”

Mae Dafydd Trystan yn egluro fod yr elfen hon sydd wedi profi cwymp yn rhan o batrwm ehangach dros Brydain, “Mae’r ddarpariaeth yma fel arfer yn rhan amser ac fel arfer ddim yn rhan o gwrs gradd Prifysgol. Mae’r cwymp yn y niferoedd hynny, sydd eto i’w cadarnhau yn derfynol, yn gyson gyda’r cwymp mewn astudiaethau rhan amser yn fwy cyffredinol yng Nghymru ac yn wir ar draws gwledydd Prydain.”

Codi’r cap ym Mhrifysgolion Lloegr

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Prydain wedi codi’r cap ar  nifer y myfyrwyr y gall prifysgolion yn Lloegr eu recriwtio ac mae Dafydd Trystan yn gweld fod y duedd hon wedi bod yn her i gadw myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg yng Nghymru.

Meddai:  “Mae hyn yn creu marchnad ‘rhydd’ ble y gall prifysgol yn Lloegr recriwtio gymaint o fyfyrwyr a phosib.  Ers codi’r cap mae niferoedd myfyrwyr sy’n mynd o Gymru i Loegr wedi cynyddu, tra bod  nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n aros yng Nghymru wedi disgyn ychydig. Yn anorfod felly mae mwy o Gymry Cymraeg wedi mynd i brifysgolion tu hwnt i’r ffin, ac felly mae llai o fyfyrwyr ar gael i’w denu i’r ddarpariaeth Gymraeg.”

Ychwanegodd: “Er hyn oll mae’r cynnydd a wnaed gan y Coleg Cymraeg a’r Prifysgolion yn drawiadol – cynnydd o tua 10% mewn dwy flynedd, ond fe allai’r cynnydd yn y dyfodol fod hyd yn oed yn fwy pe tai polisi Llywodraeth Prydain am brifysgolion yn Lloegr yn newid.”