Llun: Mankind CCA 2.0
Mae ffigurau gwerthiant archfarchnadoedd Tesco wedi cwympo 1.3% yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol, yn ôl ffigyrau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw.

Ond mae’r archfarchnad yn dweud bod hynny’n “gam arall yn y cyfeiriad cywir” ar ôl cwymp o 4% yn ystod yr un cyfnod llynedd, a chwymp o 1.7% yn y chwarter diwethaf.

“R’yn ni’n ceisio gwasanaethu ein cwsmeriaid ychydig yn well bob dydd ac mae’r gwelliannau yr ’yn ni wedi’u gwneud yn dechrau cael effaith,” meddai Prif Weithredwr y cwmni Dave Lewis.

Colledion

Daw’r ffigyrau diweddaraf ychydig fisoedd ar ôl i gyfrifon blynyddol Tesco ddangos ym mis Ebrill fod y cwmni wedi gwneud colled o £6.4bn, un o’r colledion mwya’ erioed.

Mae cyfranddalwyr hefyd yn anhapus fod cyn-bennaeth y cwmni Philip Clarke wedi derbyn £1.2m o dal wrth adael y swydd, ar ben ei cyflog blynyddol o £764,000.

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Tesco eu bod nhw am gau 43 o siopau yng ngwledydd Prydain a chanslo cynlluniau i adeiladu 49 archfarchnad newydd.

Mae’r cwmni hefyd wedi symud eu pencadlys o Cheshunt i Welwyn Garden City yn y gobaith o arbed hyd at £250miliwn.