Fe fydd cwestiynau’n cael eu codi am ddyfodol Awdurdod S4C wrth i’r dyfalu gynyddu y bydd y Llywodraeth yn cael gwared ar Ymddiriedolaeth y BBC neu yn eu gwanhau’n sylweddol.

Yn ôl adroddiadau papur newydd, fe fydd Llywodraeth Prydain yn cyhoeddi papur gwyrdd yn awgrymu rhoi’r BBC o dan oruchwyliaeth Ofcom, fel cyrff darlledu eraill.

Fe allai’r un peth ddigwydd wedyn i S4C, sydd â’r un math o drefn lywodraethu â’r Gorfforaeth – gyda’r Awdurdod yn trin cwynion am y sianel ac yn rhan o’i rheoli hefyd.

Siarter newydd

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant newydd yn San Steffan, John Whittingdale, eisoes wedi cadarnhau ei fod yn ystyried dyfodol yr Ymddiriedolaeth wrth baratoi siarter newydd ar gyfer y BBC.

Ei adran ef hefyd sy’n gyfrifol am S4C ac mae’r Canghellor, George Osborne, wedi canmol gwaith Ofcom yn ddiweddar.

Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, Rona Fairhead, wedi dweud eisoes ei bod yn disgwyl newid gan argymell y dylai rheoleiddio fod yn nwylo corff annibynnol newydd.

Ond, yn ôl papur y Daily Telegraph, dyw’r Llywodraeth ddim o blaid hynny, gan ffafrio rhoi’r gwaith i Ofcom.