Mae arweinwyr undebau ffermwyr wedi ymateb yn feirniadol wrth i gwmni llaeth mawr First Milk gyhoeddi y byddan nhw’n torri prisiau llaeth unwaith eto o 1c y litr.

Mae hyn yn golygu bod prisiau llaeth wedi haneru o fewn blwyddyn, meddai Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Brian Walters.

Ac yn ôl Stephen James, Llywydd NFU Cymru, fydd hi ddim yn bosib cynnal y sefyllfa yn y tymor hir.

“Mae ein sefyllfa ni nawr yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ffermwyr llaeth yn y Deyrnas Unedig yn derbyn prisiau llaeth sy’n llawer is na’r gost o’i gynhyrchu.”

Cyfres o doriadau

Fe ddaw’r toriad diweddara’ wedi cyfres hir o ostwng ym mhris llaeth ac mae pryderon y bydd rhagor o ffermwyr yn gadael y sector.

Mae pethau’n wael ar draws y byd, meddai Brian Walters, a ffermwyr hefyd yn poeni y bydd diddymu cwotas llaeth Ewrop ym mis Ebrill eleni yn arwain at ragor o doriadau.

First Milk yw un o gwmnïau llaeth cydweithredol mwya’ gwledydd Prydain ond fe wnaeth golled o £22m yn ystod blwyddyn ariannol 2014-2015. Mae traean o’i aelodau yng Nghymru.

Dyfodol y diwydiant yng Nghymru

“Alla’ i ddim meddwl am ddim un ffarmwr sy’n gwneud arian o laeth,” meddai Brian Walters gan alw ar y Llywodraeth i wneud mwy i annog pobol i brynu cynnyrch lleol er mwyn hybu’r diwydiant.

Ond, meddai, “er yr argyfwng ry’n ni ynddi nawr, ma na obaith eto i ffermwyr llaeth”.

  • Cyhoeddwyd hefyd y bydd Jim Plaice yn gadael ei rôl yn Gadeirydd First Milk. Fe fydd ei olynydd yn cael ei ddewis yng nghyfarfod blynyddol y cwmni yn yr hydref.