Gall taliadau diswyddo i dri o uwch weision sifil sy’n gadael Llywodraeth Cymru gyrraedd hyd at £400,000.

Mae’r Ceidwadwyr yng Nghymru wedi beirniadu’r taliadau gan ddweud eu bod yn “atgof” o ddiffyg parch Llafur Cymru tuag at arian y trethdalwyr a’i fod yn peri “pryder gwirioneddol”.

Ddydd Llun, daeth hi i’r amlwg fod tri o uwch reolwyr Llywodraeth Cymru yn gadael eu swyddi yn dilyn ailstrwythuro.

Y tri yw Gareth Jones, cyfarwyddwr cyffredinol Adnoddau Naturiol; June Milligan, cyfarwyddwr cyffredinol Llywodraeth Leol; a chyfarwyddwr cyffredinol Gwasanaethau Corfforaethol, Michael Hearty.

‘Swm syfrdanol’

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: “Er ein bod yn cefnogi ymdrechion i leihau’r gost o ddarparu llywodraeth yng Nghymru, yn enwedig ar adeg pan mae teuluoedd ar draws y wlad yn ei chael hi’n anodd, mae’r symiau dan sylw yn destun pryder gwirioneddol.

“Mae’r swm syfrdanol yma hefyd yn codi’r cwestiwn – os allwch chi fforddio colli hanner yr uwch dîm rheoli yn Llywodraeth Cymru heb gyfaddawdu gwasanaethau, pam ar wyneb y ddaear y cawson nhw eu cyflogi yn y lle cyntaf?”

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn disgwyl i’r gost gael ei hadennill mewn llai na 10 mis.