Llys y Goron yr Wyddgrug
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn Asiaidd â morthwyl a machete yn archfarchnad Tesco wedi dweud ei fod wedi “colli rheolaeth”.
Gwnaeth Zack Davies, 26, ymosod ar y deintydd Dr Sarandev Bhambra gyda morthwyl a machete yn yr archfarchnad yn yr Wyddgrug.
Dywedodd wrth y llys nad oedd wedi bwriadu lladd y deintydd.
Mae Davies yn gwadu ceisio llofruddio, ond yn cyfaddef achosi niwed bwriadol.
Clywodd y llys mewn gwrandawiad blaenorol fod yr ymosodiad yn ymgais i ddial am lofruddiaeth y milwr Lee Rigby yn Woolwich.
Ond ymddiheurodd y diffynnydd am y datganiad hwnnw heddiw.
Yn ystod y gwrandawiad heddiw, dywedodd Davies ei fod yn ymddiddori yn y Wladwriaeth Islamaidd a’r milwr Jihadi John.
Ond fe wadodd ei fod yn hiliol, er ei fod yn ymddiddori mewn Sosialaeth Genedlaetholgar.
Mae’r achos yn parhau.