Ffoaduriaid yn ceisio dringo i mewn i lori yn Calais
Mae lle i gredu bod 350 o ffoaduriaid wedi cael eu darganfod gan yr heddlu wrth iddyn nhw guddio mewn ceir a lorïau cyn ceisio croesi o Calais i wledydd Prydain y bore ma.
Ddoe, roedd gweithwyr fferi wedi mynd ar streic gan dorri i mewn i Dwnnel y Sianel gan orfodi iddo gael ei gau.
Yn sgil hynny, fe wnaeth y ffoaduriaid geisio manteisio ar y streic wrth geisio dringo ar lorïau, oedd yn teithio i’r DU, oedd wedi gorfod arafu neu stopio oherwydd y ciw i mewn i’r porthladd.
Roedd delweddau’r bore ma’n dangos rhai ffoaduriaid ar ochr y draffordd tra bod eraill yn cael eu gweld yn agor drysau cefn lorïau sy’n sownd mewn traffig.
Dianc
Dywedodd nifer o’r ffoaduriaid wrth y wasg eu bod nhw’n ceisio symud i wledydd Prydain oherwydd trafferthion yn eu gwledydd eu hunain.
Dywedodd un o’r ffoaduriaid, sy’n 20 oed ac yn dod o Syria, bod llywodraeth y wlad yn difetha’u cartrefi ac yn defnyddio arfau cemegol yn eu herbyn.
Dywedodd ei bod hi’n barod i “wneud beth bynnag sydd ei angen” er mwyn dianc o’r wlad.
Dywedodd gyrrwr un o’r lorïau fod gyrwyr yn cael eu bygwth a’u dirwyo am gludo ffoaduriaid.
Mae rhybudd y gallai hyd at 2,000 yn rhagor o ffoaduriaid geisio symud i Ewrop o Affrica ac Asia dros yr haf.
Cafodd teithwyr o Brydain rybudd i gloi drysau eu ceir pe bai oedi ar y ffyrdd.
Mewn digwyddiad arall heddiw, ceisiodd un o’r ffoaduriaid dorri i mewn i lori yn y porthladd ac roedd gyrwyr yn symud eu cerbydau’n araf i gyfeiriad y ffoaduriaid i’w hannog i symud oddi ar y ffyrdd.