Bydd ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn Wrecsam yn ceisio cael mynediad i gyfarfod y cyngor – Fforwm Cymraeg mewn Addysg – yn neuadd y sir heddiw.

Mae rhai o rieni’r sir yn pryderu y bydd yn rhaid i’w plant nhw deithio i ochr arall y dref, neu hyd yn oed i sir arall er mwyn derbyn addysg Gymraeg.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, fod ganddo “bryderon difrifol” y bydd y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn y dyfodol yn arwain at ragor  o broblemau os nad ydynt yn mynd i’r afael a hi nawr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi ymyrryd yn y ffrae ac wedi ysgrifennu llythyr at Gyngor Wrecsam i’w “hannog” i ddarparu lleoedd ychwanegol mewn ysgolion Cymraeg i “fodloni’r galw yn gyflym”.

Meddai’r llefarydd: “Mae’r Gweinidog Addysg wedi ysgrifennu at awdurdod lleol Wrecsam i’w hannog i ddarparu lleoedd ychwanegol mewn ysgolion Cymraeg i fodloni’r galw yn gyflym.

“Yn yr hir dymor, mae’r Gweinidog wedi gofyn i’r Cyngor fabwysiadu prosesau sy’n gwella’r broses o gasglu a defnyddio data o gwmpas anghenion yr iaith Gymraeg fel y gall digon o leoedd mewn ysgolion Cymraeg gael eu darparu yn y dyfodol. ”

Meddai llefarydd ar ran y cyngor: “Mae’r Gweinidog wedi ysgrifennu at arweinydd y cyngor am y ddarpariaeth addysg Gymraeg a bydd ymateb priodol i’w gais am wybodaeth yn cael ei hanfon yn ystod y dyddiau nesaf.”

Cefndir

Roedd arolwg yn 2007 yn dangos y byddai 44% o rieni yn danfon eu plant i ysgol Gymraeg pe bai o fewn dwy filltir i’w cartref.

Dim ond 36% wnaeth ddweud y bydden nhw’n debygol o anfon eu plant i ysgol gynradd Gymraeg sy’n bodoli eisoes.

Dywedodd Llyr Gruffydd AC fod Cynllun Strategol Addysg  Gymraeg y cyngor ar gyfer 2014-17 yn dweud bod tua 21.7% o rieni a holwyd yn y sir am i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg – ond ar hyn o bryd dim 11% o ddisgyblion sydd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Cyngor Wrecsam mewn datganiad eu bod wedi bod yn “hynod ragweithiol” wrth ymateb i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg gan nodi fod lleoedd meithrin wedi codi o 162 ar ddechrau blwyddyn academaidd 2008/9 i 244 fydd yn cael eu cynnig ym mis Medi 2015.

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud fod hyn yn cynrychioli cynnydd o 51% yn y lleoedd sydd ar gael ar adeg “pan mae cyllid yn parhau i ostwng”.

Y ddeiseb

Yn ôl yr ymgyrchwyr, sydd wedi dechrau deiseb sydd â thua 650 o enwau arni ar hyn o bryd, cafodd Ysgol Bro Alun ei hadeiladu yn 2012 o ganlyniad i’r arolwg diwethaf er mwyn ateb y galw, ond bellach mae’r ysgol yn llawn.
Yn ogystal, cafodd 24 o blant eu “siomi” wrth geisio cael mynediad i’r dosbarth meithrin a dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi ac mae Ysgol Plas Coch, sydd gyda hanner y disgyblion mewn cabanau, hefyd yn llawn.

Mae Eleri Vaughan Roberts yn un o’r ymgyrchwyr sydd wedi methu cael ei phlentyn i ddosbarth meithrin Ysgol Bro Alun eleni, er gwaethaf byw lai na milltir i ffwrdd.

Meddai: “Mae hi wedi cael cynnig lle meithrin yn Ysgol Bodhyfryd – sydd hollol ochr arall i’r dre. Mae hi’n cymryd hanner awr i gyrraedd yno, er mod i’n gweld Ysgol Bro Alun wrth roi’r dillad ar y lein.

“Ond dydyn nhw methu  dweud y bydd lle iddi yn y dosbarth derbyn y flwyddyn nesa chwaith, ac os na fydd lle, mi fydde hynny’n gallu golygu taith 19 milltir i’r ysgol.”

Ychwanegodd Eleri Vaughan Roberts fod yr ymgyrch wedi cael llawer o gefnogaeth gan gynnwys gan yr ACau Llyr Gruffydd o Blaid Cymru ac Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond nad oedd adran addysg y cyngor “isio gwybod.”
‘Ansicrwydd’

Dywedodd Llyr Gruffydd AC bod angen cynllunio am y dyfodol nawr.

Meddai: “Fel y gŵyr y cyngor, mae’n cymryd amser i gasglu arian ar gyfer ysgol newydd. Dylai fod yn ymgynghori nawr am y galw yn y dyfodol. Erbyn 2023, pan fydd y ffyniant presennol wedi taro’r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, Ysgol Morgan Llwyd, rhagwelir y bydd hyd at 1,250 o ddisgyblion yno.

“Rwy’n ymwybodol o rieni sy’n ystyried symud allan o’r sir er mwyn sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant ac eraill sy’n anobeithio gydag ansicrwydd y cyfan.

“Os na fydd y cyngor yn newid ei agwedd, byddaf yn gofyn i’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis,  i gynnal adolygiad annibynnol o bolisïau’r cyngor oherwydd pryderon a godwyd ynghylch y methiant i weithredu ei Gynllun Strategol ei hun.”

Cyngor Sir Wrecsam

Dywedodd y cyngor eu bod wedi cymeradwyo buddsoddiad o £1.2m, i’w wneud erbyn 2018, i greu lleoedd ychwanegol yn yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, Ysgol Morgan Llwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Williams, aelod arweiniol y cyngor dros wasanaethau plant bod mwy na digon o lefydd i fodloni pob cais ar gyfer darpariaeth Feithrin Cyfrwng Cymraeg yn Wrecsam eleni – er nad yw hyn o reidrwydd yn golygu dewis cynta’r rhieni o ysgol – a bod hynny union yr un fath â’r sefyllfa yn ysgolion cyfrwng Saesneg y sir.

Meddai Michael Williams: “Derbyniodd Ysgolion Bro Alun a Plas Coch fwy o geisiadau am ddarpariaeth feithrin na sydd na o le ym mis Medi eleni. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’r meini prawf a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol a gyflwynwyd ym Medi 2012 yn cael eu cymhwyso.

“Mae’r meini prawf yn cael eu datgan yn eithaf clir, ac yn cael eu hysbysebu yn y wybodaeth a ddarperir i rieni. Mewn amgylchiadau lle mae ysgolion, boed yn rhai cyfrwng Cymraeg neu gyfrwng Saesneg, yn cael eu gordanysgrifio, mae plant sy’n dewis yr ysgol addas agosaf at eu cyfeiriad cartref yn cael blaenoriaeth dros blant sydd â brawd neu chwaer sy’n mynychu’r ysgol yn barod.”

Ychwanegodd y Cyngor nad oedden nhw bellach yn cynnal adolygiadau unigol fel yr un mae’r ymgyrchwyr yn galw amdano.

Bydd cyfarfod Fforwm Cymraeg mewn Addysg y cyngor yn cael ei gynnal y prynhawn ‘ma.