Mae Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Prifysgol Abersytwyth, am gyflwyno cynnig i Gyngor y Birfysgol ddydd Llun fydd yn amlinellu’r bwriad i ailagor Pantycelyn “o fewn pedair blynedd er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol Cymraeg o’r radd flaenaf”.

Yn y cyfamser bydd Cyngor y Brifysgol yn gofyn i’r Tîm Gweithredu ddarparu llety Gymraeg ym Mhenbryn o fis Medi ymlaen “ar gyfer gweithgareddau cymunedol a diwylliannol i siaradwyr Cymraeg ac i ddysgwyr ar draws y Brifysgol”.

Mae’r brifysgol wedi cynnig llety Penbryn i’r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg am y cyfnod y bydd neuadd Pantycelyn ar gau, ac fe fyddan nhw hefyd yn cael defnydd o rai o’r ystafelloedd yn adeilad Pantycelyn yn y cyfamser.

Mae disgwyl hefyd i’r brifysgol gyhoeddi briff erbyn 30 Ebrill 2016 fydd yn amlinellu eu cynlluniau ar gyfer llety i fyfyrwyr ym Mhantycelyn fydd yn addas am hyd at 40 mlynedd.

Llywydd UMCA Hanna Merrigan yn ymateb i gynnig y brifysgol:

Ymgyrch yn parhau

Mae Golwg360 ar ddeall, fodd bynnag,  fod yr ymgyrchwyr sydd ar hyn o bryd wedi meddiannu adeilad Pantycelyn yn bwriadu aros yno nes dydd Llun pan fydd cyfarfod y Cyngor yn cael ei gynnal.

Fe fydd ’diwrnod agored’ yn ymgyrchwyr yn yr adeilad yn mynd yn ei flaen fory, ond fydd yr ymprydio oedd wedi cael ei gynllunio ar gyfer dydd Sul ddim yn digwydd bellach.

Mae disgwyl hefyd i’r ymgyrch ei hun dros ddyfodol neuadd Pantycelyn barhau mewn rhyw ffurf neu’i gilydd hyd nes y bydd myfyrwyr yn symud yn ôl i’r llety ar ôl iddi gael ei hailwneud.

‘Croesawu’r datblygiad’

Cafodd datganiad ei ryddhau gan Brifysgol Aberystwyth ar y cyd ag Undeb Myfrwyr Aberystwyth ac UMCA yn dilyn trafodaethau rhwng cynrychiolwyr y myfyrwyr a’r brifysgol.

“Yn dilyn trafodaethau hir a dwys, mae Syr Emyr Jones Parry, Canghellor y Brifysgol a Chadeirydd y Cyngor, wedi cytuno i gyflwyno cynnig sydd wedi ei gytuno ag UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, i gyfarfod y Cyngor dydd Llun 22 Mehefin, sydd yn cynnig ffordd ymlaen ar ddyfodol Pantycelyn,” meddai’r datganiad.

“Mae’r testun yn atgyfnerthu ymrwymiad y brifysgol i’r iaith Gymraeg a darpariaeth llety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth, ac i broses i weithredu ei bwriad i ail agor Pantycelyn o fewn pedair blynedd i’r pwrpas hwn.

“Mae’r Brifysgol, gan gynnwys aelodau staff cyfrwng Cymraeg, UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, yn croesawu’r datblygiad hwn ac yn edrych ymlaen at barhau gyda’r trafodaethau adeiladol ar ddyfodol Pantycelyn a darpariaeth llety cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.”