Keith Davies
Mae Aelod Cynulliad Llafur Llanelli, Keith Davies, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholaeth yn etholiadau 2016.

Dywedodd y gwleidydd 75 oed, a enillodd y sedd oddi wrth Blaid Cymru o drwch blewyn yn 2011 – dim ond 80 pleidlais oedd ynddi – ei fod wedi bod “yn bleser cynrychioli fy etholaeth gartref”.

“Rydw i’n credu ei bod hi’n bryd i’r genhedlaeth nesaf gael y cyfle i gynrychioli etholaeth Llanelli,” ychwanegodd.

Dywedodd Keith Davies, a fu’n dioddef problemau iechyd yn 2012, ei fod wedi trafod â’i deulu a staff cyn penderfynu rhoi’r ffidil yn y to.

Fe fydd Helen Mary Jones, a gollodd y sedd i Keith Davies yn 2011, yn sefyll dros Blaid Cymru unwaith eto’r flwyddyn nesaf.

Y disgwyl yw y bydd hi’n frwydr agos arall rhwng Llafur a Phlaid Cymru ar gyfer y sedd, ond fe allai UKIP hefyd fod yn fygythiad ar ôl gwneud yn dda yno yn yr etholiad cyffredinol eleni.