Mark Drakeford, wedi cyhoeddi'r arian newydd (Llun Senedd)
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gwasanaethau gofal 24 awr yn y gymuned gyda buddsoddiad o £34 miliwn.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford heddiw y bydd yr arian yn mynd tuag at hyfforddi a chyflogi mwy o nyrsys a therapyddion i gyd-weithio gyda meddygon teulu.

Y gobaith yw y bydd arbenigedd meddygol y gweithwyr iechyd yn gymorth i helpu pobol sy’n byw gyda chyflyrau hir dymor i ymdopi’n well yn y cartref – gan leihau nifer y bobol sy’n mynd i’r ysbyty yn ddiangen.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn galluogi rhai gwasanaethau sy’n cael eu cynnig mewn ysbytai ar hyn o bryd, fel gofal llygaid, i symud i’r gymuned.

‘Lleihau’r pwysau’

“Mae disgwyl i’r pecyn ariannol leihau’r pwysau ar feddygon teulu. Trwy ddelio â chyflyrau hirdymor yn y cartref, fe fyddwn ni’n cadw pobol allan o ysbytai ac yn eu trin yn nes at eu cartrefi a’u teuluoedd,” meddai’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

Bydd byrddau iechyd yn derbyn dros £23 miliwn a bydd dros £5 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn 19 o brosiectau newydd, gan gynnwys denu meddygon i ogledd Cymru a cherbyd fydd yn teithio o amgylch ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg.