Siwpyr-grŵp Cymraeg newydd yw’r Niwl sy’n cynnwys rhai o gerddorion gorau’r gogledd yn creu miwsig offerynnol swynol – surf pop – heb eiriau, cytgan na chanwr.
Y baledwr Alun Tan Lan o Lanrwst yw’r aelod amlyca’ efallai, ac wedi hel ynghyd dri cherddor dawnus arall:
• Y gitarydd pengoch Siôn Glyn o Fethesda, gynt o Topper a Murray The Hump.
• Pete Richards o Rosgadfan, gynt o’r Gorky’s a Topper hefyd, sy’n adnabyddus fel drymiwr dawnus ond sydd hefyd yn ddewin ar y gitâr pedal Steel.
• A’r ifanca’, y cerddor Gruffydd ab Arwel o Rostryfan ger Caernarfon, un hanner o’r bartneriaeth wreiddiol Eitha Tal Ffranco, sy’n fyfyriwr ym mhrifysgol Bangor ac sy’n chwarae’r organ a’r allweddellau a’r gitâr yn y Niwl.
“Mae’r gweddill yn dipyn mwy o ddeinosoriaid na fi!” meddai Gruffydd ab Arwel sydd eisoes wedi dal sylw’r gitarydd Alun Tan Lan ar ôl canu’r organ ar ei sengl newydd fis Chwefror, Dyma’r Diwedd.
“Ond mae yna lot o barch, mae’r tri arall wedi arfer chwarae efo’i gilydd ers blynyddoedd ond yn gwbl agored i farn fi a phawb arall.”
Mae hi’n amlwg yn fraint i un mor ifanc gael ei wahodd gan y bois mawr i ymuno yn yr hwyl – er bod Gruff ab Arwel yn gwbl ddidaro am y cyfan.
“O’n i wedi bod yn chwarae efo Tan Lan, gwneud bits and bobs a helpu allan felly, am tua dwy flynedd. So roedd o reit cŵl pan ges i’r cyfle i wneud rhywbeth creadigol newydd efo’r band am y tro cynta’.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 15