Darren Millar
Fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn dadlau dros roi’r hawl i’r cyhoedd benodi a diswyddo penaethiaid y Gwasanaeth Iechyd, trwy gyflwyno comisiynydd iechyd ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd.

Byddai’r comisiynwyr yn atebol i’r cyhoedd ac yn rhoi diwedd ar yr arfer o weinidogion Llafur yn dewis cadeiryddion a phenodi aelodau bwrdd.

Daw wedi i’r Ceidwadwyr ddatgelu gwaith ymchwil oedd yn honni bod 75% o uwch-swyddogion y GIG a byrddau iechyd lleol oedd wedi datgan ffafriaeth i blaid wleidyddol yn gysylltiedig â’r blaid Lafur.

“Mae diffyg democrataidd yng Nghymru,” yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Darren Millar.

“Mae cymunedau ledled Cymru wedi gweld byrddau iechyd yn gweithredu cynlluniau amhoblogaidd iawn o gau ysbytai ac israddio adrannau, gan falio dim am y farn gyhoeddus.

“Yn sgil yr helyntion diweddar sydd wedi taro nifer o fyrddau iechyd, mae angen diwygio arweinyddiaeth y GIG.”