Llety'r Sirhowy Arms yn Argoed
Mae perchennog gwesty gwely a brecwast lle cafodd dynes ei llofruddio wedi siarad am ei sioc wrth ddarganfod fod rhai o’r cyn breswylwyr wedi cynnwys llofruddwyr, troseddwyr rhyw a phedoffiliaid.

Cafodd Cerys Yemm, 22,  ei llofruddio yng ngwesty’r Sirhowy Arms yn Argoed, ger y Coed Duon, y llynedd. Roedd ganddi anafiadau difrifol i’w hwyneb a’i gwddf ar ol i Matthew Williams ymosod arni.

Roedd Cyngor Caerffili wedi trefnu bod  Matthew Williams yn aros yno ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar. Bu  farw Williams yn ddiweddarach ar ôl i’r heddlu danio gwn taser ato.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Week In Week Out y BBC, a fydd yn cael ei darlledu heno, mae perchennog y Sirhowy Arms, Mandy Miles, yn dweud nad oedd ganddi syniad am orffennol treisgar Matthew Williams,  na’r ffaith ei bod hi wedi rhoi llety i droseddwyr peryglus eraill yn y gorffennol.

Ychwanegodd na fyddai wedi caniatáu iddyn nhw aros petai hi wedi gwybod am eu cefndir troseddol.

Cyn marwolaeth Cerys Yemm, roedd y Sirhowy Arms wedi cael ei ddefnyddio gan y cyngor ers 2008 i roi lloches dros dro i oedolion digartref a nifer o blant yn eu harddegau sy’n agored i niwed – gan gynnwys rhai oedd newydd adael y system ofal.

Dywedodd Mandy Miles ei bod yn hapus i dderbyn pobl oedd wedi bod yn y carchar yn ogystal â rhai gyda phroblemau alcohol, cyffuriau a salwch iechyd meddwl – ond roedd hi’n credu nad oedden nhw’n beryglus.

Troseddwyr rhyw a threisgar

Fodd bynnag, yn dilyn llofruddiaeth Cerys Yemm ym mis Tachwedd y llynedd, mae Cais Rhyddid Gwybodaeth wedi dangos bod y cyngor wedi cyfeirio 10 o droseddwyr rhyw a threisgar, a oedd wedi bod yn ddigartref, i’r gwesty.

Mae’r rhaglen hefyd wedi canfod fod cynghorau Cymru, yn y pum mlynedd diwethaf, wedi anfon 755 o bobl ifanc digartref rhwng 16 a 17 mlwydd oed i aros mewn llety gwely a brecwast am nad oedd unman arall iddyn nhw fynd.

Yn Lloegr, mae cynghorau wedi gorfod rhoi’r gorau i anfon pobl ifanc o dan 18 mlwydd oed i lety gwely a brecwast gan ei fod yn cael ei ystyried yn amhriodol. Ond yng Nghymru, gall cynghorau eu gadael yno am hyd at chwe wythnos ar y tro tra bod dewisiadau eraill yn cael eu hystyried.

Asesiadau risg

Gwrthododd Cyngor Caerffili gael eu cyfweld ar gyfer y rhaglen, ond dywedodd y cyngor ei fod yn ystyried asesiadau risg gan yr heddlu a’r gwasanaeth prawf cyn anfon cyn-droseddwyr i aros mewn llety dros dro.

Ychwanegodd y cyngor ei fod wedi dweud wrth Mandy Miles os oedd y rhai oedd yn aros gyda hi yn gyn-droseddwyr, ond nad oedd yn rhoi manylion am y rheswm pam eu bod wedi cael eu hanfon i’r carchar.

Bydd Week In Week Out yn cael ei darlledu heno (nos Fawrth) ar BBC One Wales am 10:35yh.