David Cameron
Mae David Cameron wedi penderfynu peidio cynnal refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru, etholiadau’r Alban, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac ethol Maer Llundain ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.

Mae’r Prif Weinidog wedi ildio i bwysau gan wrthryfelwyr Torïaidd a’r SNP ynglŷn â chynnal y refferendwm ar 5 Mai 2016.

Mae disgwyl cyhoeddiad hefyd ynglŷn â’r cyfnod neilltuo er mwyn sicrhau nad oes ’na ymdrech i ddylanwadu ar ganlyniad y refferendwm.

Dywedodd ffynhonnell ar ran y Llywodraeth: “Rydym wedi gwrando ar farn ASau ac wedi cytuno na fyddwn ni yn cynnal y refferendwm ar yr un diwrnod a’r etholiadau eraill.”

Mae llefarydd materion tramor yr SNP, Alex Salmond wedi croesawu’r tro pedol gan ddweud ei fod yn gobeithio bod hyn wedi dangos i’r Llywodraeth Geidwadol bod yn rhaid “dod a’u diffyg parch tuag at yr Alban a Chymru a phobl Gogledd Iwerddon i ben.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ar Twitter: “Synhwyrol i ddiystyru refferendwm yr UE ar yr un diwrnod ag etholiadau mis Mai. Torïaid hefyd yn wyliadwrus o etholiad gyda’u haelodau’n ymladd â’i gilydd.”