Y sglefrod mor ar draeth Cefn Sidan
Mae miloedd o sglefrod môr wedi cael eu darganfod ar draeth Cefn Sidan yn Sir Gâr o ganlyniad i sbel o dywydd cynnes.

Fe welwyd tua 50 ohonyn nhw yn Harbwr Porth Tywyn ddydd Sadwrn hefyd, yn ôl Cyngor Sir Gâr.

Er nad yw’r sglefrod  yn beryglus i’r cyhoedd, mae pobol yn cael eu cynghori i gadw draw oddi wrthyn nhw.

Mae’r creaduriaid yn mesur tua 16 modfedd a dyma’r sglefrod môr mwyaf ym Mhrydain.

“Maen nhw yn gwneud ymddangosiad bob blwyddyn ond mae’r niferoedd wedi cynyddu eleni yn sgil y tywydd cynnes. Mae’n debygol y bydd y llanw yn eu tynnu yn ôl i’r dŵr dros y dyddiau nesaf,” meddai llefarydd o Gyngor Sir Gâr.

Gan fod crwbanod y môr yn bwyta’r sglefrod môr, mae Cyngor Sir Gâr yn gofyn i unrhyw un yn yr ardal sy’n gweld crwban y môr i roi gwybod iddyn nhw.