Ymarferiad ym Mannau Brycheiniog
Mae swyddog a oedd wedi helpu i drefnu ymarferiad SAS ym Mannau Brycheiniog, wedi gwadu ei fod wedi methu a gwneud asesiad digonol o gyflwr milwr a gafodd ei daro’n wael yn ddiweddarach ar ôl gorboethi.

Bu’r swyddog hyfforddi, sy’n cael ei adnabod fel Milwr 1B am resymau diogelwch, yn rhoi tystiolaeth yng nghwest tri o filwyr wrth gefn fu farw ar ôl cymryd rhan yn yr ymarferiad ym mis Gorffennaf 2013.

Dywedodd Milwr 1B nad oedd “unrhyw siawns” ei fod wedi methu gweld arwyddion  fod yr ymgeisydd, sy’n cael ei adnabod fel 2P, wedi gorboethi.

Clywodd y cwest yn Solihull fod 2P wedi cael ei dynnu o’r daith gerdded 16 milltir tua 45 munud ar ôl iddo gael ei asesu gan 1B  ar ddiwrnod crasboeth ym mis Gorffennaf.

Gofynnodd y crwner, Louise Hunt, a oedd 1B wedi methu a chynnal asesiad digonol o 2P ond fe atebodd: “Rwy’n anghytuno, fe fyddwn i wedi gwneud yr asesiad yn iawn.”

Mae 1B yn gyn aelod o’r Morlu Brenhinol a ddaeth yn aelod o’r SAS yn 1993. Roedd wedi gadael y lluoedd arfog yn ddiweddar ar ôl gwasanaethu am 29 mlynedd.

Dywedodd na fyddai unrhyw filwr oedd a symptomau o orboethi wedi cael parhau gyda’r daith.

Bu farw’r Is-gorporal Craig Roberts, 24 oed, o Fae Penrhyn a’r Is-gorporal Edward Maher, 31, ar ôl gorboethi wrth gerdded ar fynydd Pen y Fan. Bu farw’r Corporal James Dunsby, 31, mewn ysbyty yn Birmingham bythefnos yn ddiweddarach ar ôl i’w organau fethu.

Mae’r cwest yn parhau.