Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw dynes ifanc fu farw ar ôl i’w char daro coeden ym Mhowys wythnos diwethaf.
Roedd Lydia Marie Lewis, 19, o Lanbadarn Fynydd wedi gwyro oddi ar ffordd yr A483 ger Llananno am tua 10:00 yr hwyr, 3 Mehefin.
Bu iddi farw yn y fan a’r lle, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.
Nid oedd cerbyd arall yn gysylltiedig a’r ddamwain ac mae’r heddlu yn cynnal ymchwiliad.
Gofynnir i unrhyw yn a welodd y ddamwain i ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 101.