Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi manylion mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Senedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r mesurau arbennig yn dod yn dilyn methiant y Bwrdd Iechyd i wneud digon i gyflwyno gwelliannau wedi pryderon ynghylch llywodraethu, arweinyddiaeth a materion eraill.

Cyhoeddwyd ddydd Llun bod y Bwrdd Iechyd yn cael ei roi o dan fesurau arbennig yn dilyn methiannau yn y gofal yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd.

Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cyfarfod rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygaeth Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Dyma’r tro cyntaf i fwrdd iechyd yng Nghymru gael ei roi mewn mesurau o’r fath.

Prif weithredwr

Heddiw hefyd, mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Trevor Purt,  wedi cael ei wahardd o’i waith ar unwaith yn dilyn cyfarfod o lywodraethwyr y Bwrdd Iechyd.

Nawr, mae’r Gweinidog Iechyd wedi gofyn i Simon Dean, dirprwy brif weithredwr y GIG yng Nghymru a phrif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Felindre, i gymryd yr awenau ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar unwaith.

Bydd Simon Dean yn goruchwylio trefniadau i ddarparu gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru ochr yn ochr ag arweinyddiaeth tymor hir.

Mae’r Athro Mark Drakeford hefyd wedi nodi nifer o feysydd lle mae’n rhaid cael gwelliant pendant fel rhan o’r gyfundrefn mesurau arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth – mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd weithredu camau llywodraethu sydd wedi cael eu hamlygu mewn nifer o adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac mewn adolygiad a gynhaliwyd gan Ann Lloyd;
  • Gwasanaethau iechyd meddwl – mae’n rhaid i’r bwrdd weithredu’r cynllun iechyd meddwl ar gyfer gogledd Cymru, gan gynnwys y camau a gododd o adolygiadau blaenorol, pryderon llywodraethu a’r adroddiad diweddar i’r digwyddiadau yn ward Tawel Fan;
  • Gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd – mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd ddatrys dyfodol gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gydnabod y materion diogelwch a chynaliadwyedd rhedeg y gwasanaeth gydag ansawdd parhaus;
  • Gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol – mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd ymateb i’r adolygiad y mae wedi ei gomisiynu i bryderon sy’n gysylltiedig â gofal tu allan i oriau;
  • Ailgysylltu â’r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd – mae’n rhaid i’r bwrdd gynnal a goruchwylio ymarfer gwrando ar sefydlu ffordd wahanol o gysylltu â’r cyhoedd. Mae angen iddo wneud hynny yn gyflym ac mae angen iddo wrando ar yr hyn y mae’n ei glywed gan ei boblogaeth leol yn hytrach na dim ond yn eu hysbysu am farn y bwrdd iechyd.

‘Cyngor arbenigol’

Yn ogystal, bydd y bwrdd yn cael ei gynorthwyo gan  unigolion allweddol a fydd yn rhoi cyngor arbenigol fel rhan angenrheidiol o fesurau arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys:

–          Dr Chris Jones, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a fydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â gwasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu;

–          Peter Meredith-Smith, cadeirydd dros dro presennol Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned a chyfarwyddwr cyswllt y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, a fydd yn darparu arbenigedd mewn nyrsio iechyd meddwl.

–          Ann Lloyd, cyn brif weithredwr GIG Cymru, a fydd yn darparu goruchwyliaeth mewn perthynas â llywodraethu ac atebolrwydd.

‘Sefydlogrwydd’

Bydd goruchwyliaeth weinidogol o’r trefniadau mesurau arbennig yn cael ei arwain gan y Dirprwy Weinidog dros Iechyd, Vaughan Gething.

Dywedodd yr Athro Drakeford y bydd y mesurau arbennig yn darparu “sefydlogrwydd” ac yn sicrhau bod gan y bwrdd “gyngor ac arweiniad clir ac awdurdodol wrth gyflawni ei gyfrifoldebau.”

Meddai: “Dyw mesurau arbennig ddim yn cael eu galw mewn ymateb i bryderon difrifol – nid yw’n ymateb arferol; mae’n adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa a chasgliad y cyfarfod nad yw’r bwrdd iechyd wedi sefydlu hyder neu sicrwydd yn ei hymateb i ystod o feysydd.

“O ystyried difrifoldeb a natur eithriadol y mesurau arbennig, bydd y trefniadau hyn yn cael eu monitro’n agos a’u hadolygu’n gynnar er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud.

“Mae hwn yn gyfnod heriol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, ond rhaid inni beidio â cholli golwg ar y ffaith fod mwy na hanner miliwn o bobl yn derbyn gofal o ansawdd uchel pob dydd.

“Bydd y mesurau hyn yn cryfhau gweinyddiaeth y gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru ar gyfer y dyfodol.”

‘Cwestiynau difrifol’

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Darren Millar, ei bod hi’n “hen bryd” rhoi’r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, ond mae’n cwestiynu pam mai dim ond un uwch swyddog sydd wedi cael ei wahardd o’i waith hyd yma.

Meddai Darren Millar: “Er fy mod yn nodi gwahardd y Prif Weithredwr o’i waith, bydd llawer o bobl yn gofyn pam nad oes rhagor o bobl wedi gadael y sefydliad hwn. Mae uwch swyddogion gweithredol ac aelodau o’r bwrdd sydd wedi bod yn gweithio trwy gydol y methiannau hyn – a gorau po gyntaf y byddan nhw’n mynd.

“Erys cwestiynau difrifol iawn am oruchwyliaeth ddiofal Llywodraeth Lafur Cymru o’r bwrdd iechyd sydd, er ei fod yn methu ers blynyddoedd, wedi gweld ychydig iawn o weithredu gan weinidogion i fynd i’r afael â’r problemau a newid pethau.”