O ennill Gwobr Tir Na n-og gwta wythnos yn ôl i gael ei goroni’n enillydd Llyfr y Flwyddyn neithiwr – dyw Gareth F. Williams “erioed wedi cael wythnos cystal” meddai wrth golwg360.

Mewn seremoni yn Galeri, Caernarfon cyhoeddwyd bod ei nofel Awst yn Anogia wedi ennill yn y  categori ffuglen a chategori’r brif wobr eleni.

Fe wnaeth y nofel, gafodd ei disgrifio fel “epig hanesyddol”, blesio’r beirniaid yn ogystal â phleidleiswyr Gwobr Barn y Bobl golwg360, gan ennill yr ail wobr yn y categori hwnnw hefyd.

Fe gafodd Gareth F. Williams goblyn o sioc pan glywodd ei fod wedi ennill neithiwr.

“Roedd o’n deimlad anhygoel – yn yr ystyr nad oeddwn i’n medru coelio’r peth,” meddai’r  awdur sy’n wreiddiol o Borthmadog am yr adeg y gwnaed y cyhoeddiad mawr.

“Roeddwn i wedi meddwl na fyddwn i’n cael dim byd. I fod yn onest, wnes i feddwl mai Lleucu Roberts fyddai’n ennill bob dim.

“Pan wnaethon nhw gyhoeddi’r enillydd, mi godais i. Ond roedd rhaid i mi eistedd yn ôl yn syth am fod fy nghoesau i fel clai.

“Dw i erioed wedi cael wythnos cystal yn fy mywyd.”

Un o feirinaid y gystadleuaeth, Hywel Griffiths, yn trafod yr enillwyr:

Y llyfr

Mae Awst yn Anogia, cyfrol olaf Gwasg Gwynedd, yn nofel sydd wedi’i seilio ar erchyllterau’r Ail Ryfel Byd ar Ynys Creta, a’r digwyddiadau eithafol a newidiodd bentref Anogia am byth.

O’r syniad cychwynnol, fe gymrodd y nofel dair blynedd i Gareth F. Williams ei gorffen, sydd tua dwbl yr amser mae o fel arfer yn cymryd i sgwennu llyfr, meddai.

“Mae perthnasau yn dod i mewn i, mwy neu lai, fy holl waith sgwennu. Mae’n rhywbeth sy’n sleifio mewn drwy’r drws cefn o hyd,” ychwanegodd.

“Y cymeriadau, dw i’n meddwl, oedd wedi cydio yn y beirniaid hefo Awst yn Anogia. Dw i ddim yn cael trafferth cymeriadu pobol, mae hynny’n dod yn eithaf hawdd, ond hefo hon roeddwn i eisiau bod yn ofalus i ddangos bod da a drwg yn y ddwy ochr.

“Mae hi mor hawdd meddwl am yr Almaenwyr fel pantomime villains ond roeddwn i eisiau dangos cydbwysedd a dangos bod ffasiwn beth ag Almaenwyr da.”

Gareth F. Williams yn cael ei gyhoeddi fel enillydd prif wobr Llyfr y Flwyddyn eleni: