Ysbyty Glan Clwyd
Fe fydd penaethiaid dau o gyrff arolygu pwysica’ Cymru yn cyfarfod ddydd Llun i ystyried a ddylai Llywodraeth Cymru ymyrryd y nachos Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru.

Fe fydd pennaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gwneud argymhelliad i’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Rhan o’r drafodaeth fydd yr adroddiad am gam-drin difrifol yn ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ond mae’r Bwrdd wedi cael nifer o drafferthion yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Diwygio’r broses arolygu?

Yn ôl Mark Drakeford, fe fydd ystyriaeth hefyd i’r posibilrwydd o ddiwygio’r broses o gadw llygad ar wasanaethau iechyd.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales heddiw y bydd yn cyhoeddi Papur Gwyrdd cyn yr haf a hwnnw’n cynnwys dau ddewis ynghylch dyfodol yr Arolygiaeth.

Un dewis fydd gwneud yr Arolygiaeth yn fwy annibynnol, meddai; dewis arall fyddai cyfuno’i waith gydag Arolygiaeth Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

‘Angen pwyll’

Ond, yn ôl Mark Drakeford, cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd wedi sefydlu’r archwiliad a ddatgelodd y gwir am ward Tawel Fan.

Roedd hi’n bwysig, meddai, fod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn bwyllog ar sail cyngor arbenigwyr, yn hytrach nag ymateb byrbwyll gan wleidyddion.